Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LANGFORD (TEULU), o Drefalun , Gresford . Dywedir yn y llyfrau achau mai o Leicestershire y daeth teulu Langford i Ruthyn gydag un o'r arglwyddi Grey. Dengys y cofnodion cynharaf fod JOHN LANGFORD yn stiward dyffryn Clwyd ac yn gwnstabl castell Rhuthyn rhwng 1403 a 1412. Rhoes Edmwnd, arglwydd Grey, rysyfwriaeth arglwyddiaeth Rhuthyn i RICHARD LANGFORD, 1441, mab y John uchod, a chwnstabliaeth castell Rhuthyn iddo ef a'i fab Edward, 1447. Bu ef f. 12 Gorffennaf 1466, ddwy flynedd ar ôl ei wraig Alis, ferch ac aeres Hywel ap Gruffudd ap Morgan, yr Hôb, gweddw John ap Richard Wettenhale. Eu hetifedd oedd yr EDWARD LANGFORD a enwyd eisoes. Gwnaethpwyd ef yn siedwr ac atwrnai arglwyddiaeth Dinbych am ei wasanaeth personol i Harri VI yn erbyn Richard, dug Iorc, 4 Chwefror 1460. Priododd ef Elen (bu f. 1465), ferch John Dutton, a bu f. 12 Tachwedd 1500. Eu mab hwy, JOHN LANGFORD, oedd y cyntaf i fyw yn Nhrefalun, fel priod Catherine, merch ac aeres William ap Dafydd (bu f. 1476) ap Gruffudd o'r lle hwnnw. Bu ef f. 26 Rhagfyr 1531.

Mab iddynt hwy oedd ‘yr hen RICHARD LANGFORD’ (bu f. 1586). Geilw John Gruffudd, Cae Cyriog, ef yn lifftenant Maelor a Iâl o dan William Herbert, iarll Penfro. Ymddiddorai ef yn hen lenyddiaeth Cymru a chopïodd lawysgrifau megis ‘Llyfr Gwyn Rhydderch’ yn 1573, gan gynnwys darnau a gollwyd wedyn o'r llyfr hwnnw. Ychydig o'i waith a gadwyd. Gall fod rhannau o lsgr. Pen. 283 (achau) yn ei law, ond mewn copiau eraill y cadwyd y manion gramadegol (Pen. 169, Hafod 24), a'r hen englynion (Pen. 111) a roes ef ar glawr. O'i wraig gyntaf Margaret, ferch John Almor, cafodd yn feibion John Langford, Edward (efallai mai ef a ysgrifennodd ei enw yn llsgr. Peniarth 56, 99; priododd Catherine ferch Humphrey Llwyd, siryf Maldwyn, 1540, a'i ŵyr THOMAS LANGFORD a ysgrifennodd lyfr achau llawysgrif Bodewryd 102), William, Roger, Dafydd, a Mathew, ac o ferched, Elizabeth, Catherine, ac Ann. O'i ail wraig, Marsli ferch John ab Ieuan ap Hywel o Drefriw, cafodd Thomas, George, Owen, Jane, Elen, Sian, ac Alis.


Gwraig John Langford oedd Catherine ferch John ap Harri Jervis o Ruthyn. Bu ef f. 27 Mawrth 1606. Ei etifedd oedd RICHARD LANGFORD (bu f. 1643), uchel siryf sir Ddinbych, 1640. O'i wraig Elizabeth (bu f. 1657), ferch Thomas Wyn ap John ap Harri, bu iddo saith o feibion a naw o ferched, heblaw pedwar plentyn a fu farw yn fabanod. Dylid enwi'r aer JOHN LANGFORD, a briododd Elizabeth ferch Seimon Thelwal, Plasyward, Catrin a briododd Walter Cradoc [q.v.] — gw. Trans Cymm., 1941, 181-2, a WILLIAM LANGFORD.


Ganwyd William Langford 12 Ebrill 1602; addysgwyd yn Gresford, Rhuthyn, a Choleg BrasenoseB.A. 1620, M.A. 1623; aelod o deulu Godfrey Goodman, esgob Gloucester, is-feistr ysgol ramadeg Rhuthyn 1624, prifathro yno 1626-50, rheithor Heneglwys ym Môn 1630, ficer y Trallwng 1632, rheithor Llanerfyl 1637, canon Llanelwy 1639, a rheithor Llanfor 1644. Collodd ei fywiolaethau oll ond Llanfor o dan y Werin-lywodraeth, eithr adferwyd ef i'r Trallwng yn 1661, a chafodd reithoraeth castell Caereinion yn 1664. Gwnaeth ewyllys hunan-fywgraffyddol gwynfannus — Mont. Coll., xiii, 259 — a bu f. 17 Mehefin 1668 a'i gladdu yn y Trallwng. Er peth gwrthdaro rhyngddynt, y mae gan Richard Davies, y Crynwr, air o glod i'w ysbryd cymdogol cyfeillgar — gw. An Account of the Convincement, 3ydd arg., 111.


Ail fab John Langford, yntau o'r un enw, a etifeddodd Drefalun. Bu'n siryf sir Ddinbych, 1677, ac yr oedd ei wraig, Mary ferch Jonathan Green, yn weddw yn 1687. Bu dau o'u meibion farw'n ddiblant o gylch dyddiad marw eu tad, rhwng Rhagfyr 1686 a Ionawr 1687. Ni adawodd yr etifedd RICHARD LANGFORD (g. 1672) ond dwy ferch, ac felly y peidiodd y brif linach wrywaidd, ond arhosai nifer o ganghennau eraill yn dwyn yr enw. Un o'r rheini oedd tylwyth John Langford, cyfieithydd The Whole Duty of Man [q.v.].

Llyfryddiaeth:

  • Llsgrau. Pen. 287, 1203-4;
  • Wynnstay MSS. 143, 597;
  • Bodewryd MS 102;
  • N.L.W. MS. 7008;
  • Cal. Pat. Rolls, 1460;
  • R.W.M.;
  • Powys Fadog, iii, 207-13;
  • Dwnn, i, 325; ii, 356;
  • Foster, Alumni Oxon.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth