LANGFORD, JOHN (1650?-1715/6?);
g. yn Rhuthyn. Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, 23 Gorffennaf 1656: B.A., Rhydychen, 1659-60; M.A., o Goleg Iesu,Caergrawnt, 1669. Gwnaed ef yn rheithor Efenechtyd, sir Ddinbych, 1 Ebrill 1663, yn rheithor Derwen, sir Ddinbych, 20 Mai 1672, yn rheithor Llanelidan, sir Ddinbych, 19 Mehefin 1684. Cyfieithodd Holl Ddled-swydd Dyn, Gwedi ei osod ar lawr mewn ffordd hynod ac eglur, defnyddiol i bawb, ondyn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig … A gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford A.M. … 1672; ac ar dudalen 412 ceir hyn: Duywo'der neilldwol ar amryw achosion yn gystal cyffredinol ac anghyffredinol … 1671. Cafwyd ail argraffiad yn 1711. Cyfieithwyd y llyfr hwn hefyd gan Edward Samuel [q.v.] yn 1718, ac ef oedd un o'r Cyfieithiadau mwyaf poblogaidd gan y S.P.C.K. yng Nghymru. Argraffwyd y llyfr gwreiddiol, The Whole Duty of Man, yn 1658, a thybir yn gyffredin mai'r Dr. Richard Allestree oedd ei awdur. Darllenid darnau ohono, weithiau, fel pregethau yn yr eglwysi.
Llyfryddiaeth:
- Foster, Alumni Oxon.;
- A. Ivor Pryce, Dioc. Bangor During Three Cents.;
- ‘Hanes y S.P.C.K. yn sir Gaerfyrddin o 1700 hyd 1730’ gan Mary Clement (traethawd M.A.).
Awdur:
David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth