Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LATHROP, RICHARD (bu f. 1764), gwerthwr llyfrau ac argraffydd yn Amwythig . Nid oes sicrwydd ei fod yn Gymro, ac nid oedd ei gynnyrch Cymreig — llyfrau a baledi — mor helaeth ag eiddo Thomas Durston [q.v.] a Stafford Prys [q.v.]. Dechreuodd ei fusnes ei hun fel argraffydd yn 1738 (gw. Cambriae Suspiria In Obitum … Reginae Carolinae … Authore Tho. Richards). Cafodd ryddfreiniad y ‘Combrethren of Saddlers …’ ar 22 Mehefin 1739. Priododd, 14 Chwefror 1737/8, Mary Hesketh. Claddwyd ef 1 Tachwedd 1764.

Llyfryddiaeth:

  • Ifano Jones, Hist. of Printing and Printers in Wales;
  • W. Rowlands, Llyfr. y Cym.;
  • J. H. Davies, Bibliog. Welsh Ballads;
  • Llewelyn C. Lloyd, ‘The Book Trade in Shropshire,’ yn Trans. Shrops. Arch., 1935, 1936.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth