LEATHART, WILLIAM DAVIES (bu f. 1831?), hanesydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain ;
ŵyr (o ochr ei fam) i William Davies, ‘of the Denbighshire part of Bodffari,’ a wnaethpwyd yn aelod anrhydeddus o'r Gwyneddigion yn 1790. Ymunodd â'r gymdeithas yn 1822 a daeth yn aelod gweithgar a brwdfrydig, gan ddyfod yn llyfrgellydd yn 1826 ac yn ysgrifennydd yn 1828. Casglodd hanes y gymdeithas a chyhoeddwyd ef gan Hugh Pierce Hughes, Llundain, 1831, o dan y teitl The Origin and Progress of the Gwyneddigion Society of London. Instituted M.CC.L.XX. Y mae hwn yn waith diddorol a defnyddiol, yn rhoddi hanes y gymdeithas, ac ar yr un pryd yn gyfraniad i hanes bywyd Cymreig Llundain yn ystod diwedd y 18fed g. a thri degau cyntaf y ganrif ganlynol; ceir ynddo hefyd fanylion am yr eisteddfodau a gynhelid yng Nghymru, etc., o dan nawdd y Gwyneddigion. Cyhoeddasai Leathart eisoes, yn 1825, lyfryn bychan, Welsh Pennillion, with Translations into English. Adapted for Singing to the Harp. Y mae yn N.L.W. MS. 1806 bum llythyr a anfonodd Leathart at Walter Davies (‘Gwallter Mechain’). [Gw. Cymm., 1951, 101-2.]
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth