Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEE (LEGH), ROWLAND (bu f. 1543), esgob Coventry a Lichfield (1534-43) a llywydd cyngor gororau Cymru (1534-43). Er nad oedd Rowland Lee yn Gymro — o ogledd Lloegr yr oedd ei dad a'i fam — rhaid ei gynnwys yma oblegid y gwaith a wnaeth pan fu'n llywydd cyngor y gororau. Ceir manylion ei yrfa yn y D.N.B. Bu'n gweithredu dan Cardinal Wolsey pan oeddid yn diddymu rhaio'r mynachlogydd, a chawsai brofiad helaeth mewn gwaith arall hefyd dros Lywodraeth Lloegr cyn cael ei ethol yn 1534 yn esgob Coventry a Lichfield (a gynhwysai hefyd y pryd hynny yr hyn a ddaeth yn esgobaeth annibynnol Caer) ac yn llywydd cyngor y goror yn Llwydlo — gan ddilyn John Voysey, esgob Exeter, yn yr ail swydd. Yr oedd pethau wedi mynd yn ddrwg yng nghyfnod Voysey, a chynhysgaeth o afreoleidd-dra a gafodd Lee. Pan ddechreuodd ar ei waith mynnodd roddi mewn grym fesurau cryfion i ddifodi pob math ar dorr cyfraith; cafodd hyd yn oed awdurdod i gosbi drwgweithredwyr â chrogi. Ysgrifennai'n wastad at Thomas Cromwell, a rhydd ei lythyrau (sydd yn y Public Record Office, Llundain) ddarluniad pur lawn o'i anawsterau a'r modd y deliai â hwynt. Cafodd y gair o fod yn llym iawn eithr dylid cofio natur y broblem gas a'i hwynebai yn wastad. Credir yn bur gyffredin mai Lee a fu'n gyfrifol am beri i Gymry'r cyfnod newid eu dull o alw eu hunain a mabwysiadu cyfenwau (gw. Ellis, Original Letters, III, iii, 13). Arferid credu mai ar gyngor Lee y trefnodd y brenin Harri VIII i ychwanegu at rif y siroedd a oedd eisoes yng Nghymru; mewn gwirionedd protestiodd Lee yn gryf yn erbyn Deddf 1536 a drefnodd bod Cymru gyfan yn cael ei rhannu'n siroedd ag iddynt ustusiaid heddwch fel yn Lloegr; a phan oeddid yn trefnu, yn Ebrill 1540, i wneuthur arglwyddiaeth Dinbych yn rhan o sir dywedodd ef wrth Cromwell nad ydoedd yn ddoeth gwneuthur hynny. Bu f. yng ‘ngholeg’ S. Chad, Amwythig, 28 Ionawr 1543, a chladdwyd ef yn yr eglwys honno. Am ychwaneg o fanylion gw. David Williams, A History of Modern Wales, 1950; C. A. J. Skeel, The Council in the Marches of Wales, 1904; R. Flenley, A Calendar of the Register of the Queen's Majesty's Council in the Dominion and Principality of Wales and the Marches, 1918.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B. a'r awdurdodau a enwir yno, a'r gweithiau a enwyd yng nghorff yr erthygl.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth