LEIGH, EDMUND (1735?-1819), clerigwr Methodistaidd;
g. c.1735, mab Richard Nash Leigh, curad Llanwynno ac Aberdâr. Ef yw'r ‘Edmund Leigh of Penrydd, co. Pembroke’ a urddwyd yn ddiacon gan esgob Tyddewi yn 1760 a'i drwyddedu'n gurad i Henllan Amgoed. Urddwyd ef yn offeiriad yn 1761 a'i drwyddedu'n gurad i Landybïe. Yr oedd yn gurad Llanedi o 1762 hyd ei farw, a gwasanaethai blwyf cyfagos Llandeilo-Talybont hefyd. Daeth i gyswllt â Howel Harris [q.v.] yn 1769 a dechreuodd gyfathrachu â'r Methodistiaid. Mynychai'r sasiynau yn chwarter olaf y ganrif, ond tebyg iddo gadw draw yn ddiweddarach. Bu f. 14 Rhagfyr 1819, yn 84 mlwydd oed, a'i gladdu yn Llanedi.
Llyfryddiaeth:
- Cylch. Cymd. Hanes M.C., xi, 46-9; xxiii, 4-13; xxxiii, 102;
- Bradney, Monmouthshire;, v, 42;
- G. M. Roberts, Meth. fy Mro, 61-6;
- Ep. Registers, Diocese of S. Davids.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe