Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LESTRANGE (TEULU), Great Ness , Cheswardine , a Knockin yn sir Amwythig . Bu JOHN LESTRANGE (a fu f. c. 1269) yn dyst i'r cytundeb rhwng Dafydd ap Gruffydd a'rbrenin Harri III ym mis Mai 1240; yn Mawrth 1241 apwyntiwyd ef i farnu achos Dafydd, ac yn Ionawr 1245 yr oedd yn aelod o gomisiwn i wneud telerau â Dafydd. Priododd Hawise, merch John Lestrange, â Gruffydd ap Gwenwynwyn [q.v.]. Yn 1244-5 ysgrifennodd John Lestrange at Harri III i ddweud wrtho am gynhorthwy Gruffydd i'r achos Seisnig; yn 1257 cynorthwyodd dywysog Powys yn erbyn Llywelyn; hefyd fe amddiffynnodd ROGER LESTRANGE (mab John; bu f. yn 1311) gastell Dolforwyn dros Gruffydd, ac ysgrifennodd at Edward, I i gefnogi hawl Gruffydd i diroedd rhwng y Rhiw a'r Helyg. Bu Hawise, gwraig Gruffydd, yn arweinydd yng nghynllwyn gwrthryfelgar Dafydd yn erbyn Llywelyn yn 1274. Yr oedd Roger Lestrange yn ustus yn Rhuddlan yn 1278; bu'n llywodraethu Maelor Saesneg a Mechain yn yr un flwyddyn, a thua diwedd y 13eg g. arweiniodd rai o'r lluoedd Seisnig yn erbyn y Cymry; cyfarfu ei lu ef â Llywelyn yn Llanfair-ym-Muellt ym mis Rhagfyr 1282. Bu amryw aelodau eraill o'r teulu hwn o sir Amwythig yn flaenllaw yn y rhyfeloedd Cymreig.

Llyfryddiaeth:

  • Littere Wallie;
  • Ancient Correspondence;
  • Welsh Assize Roll.

Awdur:

Ivor John Sanders, M.A., (1911-91), Aberystwyth