Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEVI, THOMAS (1825-1916), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd Trysorfa y Plant ac awdur; g. 12 Hydref 1825 yn Penrhos gerllaw Ystradgynlais, mab John a Prudence Levi. Cafodd ei addysg foreol mewn ysgol a gedwid gan hen filwr yn Ystradgynlais. Pan yn fachgen gweithiai yng ngwaith haearn Ynyscedwyn. Tua 1846 dechreuodd bregethu yng nghapel Cwmgïedd, Ystradgynlais. Gwasnaethodd fel bugail ar Gapel yr Ynys, Ystradgynlais, oddeutu 1855-60, ar eglwys Philadelphia, Treforus, 1860-76, ac ar eglwys y Tabernacl, Aberystwyth, 1876-1901. Priododd (1), Elizabeth Daniel, Cwmgïedd (a fu f. yn 1871), a (2), 1873, Margaret, merch ieuengaf Hugh a Catherine Jones, Coedmadoc, Talysarn, sir Gaernarfon. Dechreuodd ar waith llenyddol yn 1853 ac ysgrifennodd 30 o lyfrau gwreiddiol. Y rhai mwyaf cyfarwydd ydyw Hanes Prydain Fawr, 1862; Bywyd a Theithiau Livingstone, 1857; Gweddiau Teuluaidd, 1863; Hanesion y Beibl, 1870; Casgliad o Hen Farwnadau, 1872; Hanes y Beibl Cymraeg, 1876; Traethodau Bywgraffyddol, 1882 ac ymlaen, a gyhoeddwyd mewn un gyfrol dan yr enw Cedyrn Cymru; Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, 1885. Cyfieithodd hefyd 60 o lyfrau o'r Saesneg yn Gymraeg, yn cynnwys Yr Anianydd Cristionogol, 1859; Crist a Gwroniaid y Byd Paganaidd, 1887. Cydweithiodd gyda Joseph Parry i ddwyn allan ‘Cantata yr Adar,’ 1873; ‘Cantata Joseph,’ 1885; a Hymnau a Thonau yr Ysgol Sabbothol, 1887 ac ymlaen.

Ond ei brif waith llenyddol oedd cychwyn Trysorfa y Plant, a'i chario ymlaen i ymddangos bob mis am hanner can mlynedd — o 1862 hyd 1911. Er bod y cylchgrawn hwn yn dyfod allan dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd, yr oedd yn boblogaidd gyda phob enwad. Yr oedd cylchrediad Trysorfa y Plant tu hwnt i ddim a welwydyng Nghymru o'r blaen, yn cyrraedd cymaint â 44,000 y mis. Gymaint oedd ei henillion nes talu holl gost Y Drysorfa (Fawr) a'r Traethodydd. Darllenid hi gan Gymry led y byd, ac ynddi hi y cyhoeddwyd rhai o ddarnau cyntaf Islwyn,’ Ceiriog,’ ac eraill. Bu'n llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1883 ac yn llywydd cymdeithasfa'r Dehau yn 1887. Cymerodd ran flaenllaw mewn gosod i fyny gofgolofnau Daniel Rowland, Thomas Charles, Williams Pantycelyn, a'r esgob Morgan. Parhaodd i bregethu hyd y flwyddyn 1910 ac i olygu Trysorfa y Plant hyd 1911. Bu f. 16 Mehefin 1916 yn agos i 91 mlwydd oed. Ar gais y Llyfrgell Genedlaethol paratowyd rhestr o'i weithiau gwreiddiol a'i gyfieithiadau o hymnau, ac y mae'r rhestr hon i'w gweled yn y llyfrgell.

Llyfryddiaeth:

  • Adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Thomas Arthur Levi, M.A., B.C.L., Ll.B., (1875-1954), Aberystwyth