LEWES, ERASMUS (1663?-1745), clerigwr;
y chweched a'r ieuengaf o feibion Capten John Lewes (isod), Gernos, plwyf Llangunllo (‘Llanvayer’ yn ôl Foster, Alumni Oxon.), sir Aberteifi. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 22 Chwefror 1683/4, yn 20 oed, gan raddio yn 1688. Ar 16 Mehefin 1692 daeth yn ficer Roch, ac ar 5 Mawrth 1694 yn ficer Brawdy — y ddwy fywoliaeth hyn yn sir Benfro. Yn 1695 daeth yn rheithor Betws Bledrws ac yn ficer Llanbedr-pont-Steffan. Y mae S. R. Meyrick (Hist. of the County of Cardigan) yn argraffu'r geiriau sydd ar dabled coffa iddo yn eglwys Llanbedr-pont-Steffan; dywedir yno iddo f. 19 Chwefror 1744/5 yn 82 oed. Yn N.L.W. MS. 510 ceir pregethau Saesneg yn ei lawysgrifen, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn 1693; yn N.L.W. MS. 744 y mae nodiadau cyffredinol ganddo yn Saesneg ac yn Lladin.
Y mae ei dad, JOHN LEWES, yn haeddu ei goffâu am mai ‘wrth Arch y Parchedig Capten Lewes o'r Gernos’ yr ymgymerth Moses Williams [q.v.] â'r gwaith o gyfieithu Companion to the Altar (Vickers) yn Gymraeg. Argraffwyd y gwaith yn Llundain yn 1715 o dan y teitl Cydymmaith i'r Allor, Yn dangos, Anian ac Angen-rhndrwydd Ymbaratoad Sacrafennaidd, Modd y derbynniom y Cymmun Bendigedig yn Deilwng.
Llyfryddiaeth:
- At y ffynonellau a enwyd ychwaneger N.L.W. MS. 1626;
- W. Wales Hist. Records. iii, 265-6;
- Foster, Index;
- Ifano Jones, Hist. of Printing and Printers in Wales, 36.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth