LEWELLIN, LLEWELYN (1798-1878), clerigwr;
g. 3 Awst 1798, trydydd mab Richard Lewellin, Tremains, Coety, ger Penybont-ar-Ogwr, Morgannwg, a'i wraig (merch i David Jones, Llan-gan [q.v.]). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen a Choleg Iesu, Rhydychen; cafodd anrhydedd yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad terfynol yn y clasuron, a graddio'n B.A. yn 1822, M.A. yn 1824, B.C.L. yn 1827, a D.C.L. yn 1829. Cafodd urddau diacon yn 1822 ac offeiriad yn 1823, ar law esgob Rhydychen, ac yn 1826 derbyniodd swydd prifathro ysgol ramadeg Bruton yng Ngwlad yr Haf. Eithr yn lle mynd yno aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan, fel ei brifathro cyntaf, yn 1827, a bu yno hyd ei f., 25 Tachwedd 1878. Bu hefyd yn ficer Llanbedr (o 1843) ac yn ddeon Tyddewi (o 1843). Claddwyd ef yn Llanbedr.
Llyfryddiaeth:
- Foster, Alumni Oxon.;
- J. Vyrnwy Morgan, Welsh Political and Educational Leaders in the Victorian Era, 1908;
- A. O. Evans, A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer, iii, 306.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth