Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWES, WILLIAM (1652-1722), tirfeddiannwr a hynafiaethydd, Llwynderw, sir Gaerfyrddin; g. 1652, mab y Parch. John Lewes, Llysnewydd. Priododd (1), Cecil Lloyd o Fairdre, sir Aberteifi, a (2), Eleanor Pryce o Rhydybenne. Yr oedd yn achydd digymar, a chasglodd lawysgrifau o Henllys, Penybenglog, Fairdre, a Rhydygors. Ysgrifennodd dros 25 o lyfrau achau wedi eu sylfaenu yn bennaf ar waith David Edwardes. Cynorthwyodd Edward Lhuyd, John Davies (Rhiwlas), Browne Willis, Theophilus Evans, a Hugh Thomas. Medrai ysgrifennu yn rhwydd mewn Lladin, Saesneg, a Chymraeg. Copïwyd y ‘Golden Grove Book’ o'i lawysgrifau. Bu f. yn ddiblant fis Rhagfyr 1722. Priododd ei weddw William Lewis (bu f. 1757) o Lanlas, sir Aberteifi, ac y mae hyn wedi peri llawer o ddryswch yn hanes y ddau ŵr.

Llyfryddiaeth:

  • Trans. Cymm., 1949;
  • Browne Willis, Survey of S. Davids;
  • D. E. Jones; Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr;
  • Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd;
  • Burke's Landed Gentry, 1937;
  • MSS. yn B.M. a'r College of Arms.

Awdur:

Major Francis Jones, M.A., F.S.A., Llundain / Caerfyrddin