LEWIS ab EDWARD (fl. c. 1560), pencerdd
o Fodfari, sir Ddinbych. Brodor oddi yno hefyd ydoedd Wiliam Tomos ab Edward, y copïydd a enwir yn Peniarth MS. 112 (509). Adweinid Lewis ab Edward hefyd fel Lewis Meirchion, ond nid yr un ydoedd â Lewis Môn (fl. c. 1480-1527), fel yr awgrymir weithiau. Dichon bod ei farwnad i Iemwnt Llwyd o Lynllifon (bu f. 1541) ymhlith ei weithiau cynharaf. Bu yn neithior Wiliam Llwyd ab Elisau o Riwaedog ac Elsbeth ferch Owain ap Siôn, Llwydiarth, 20 Hydref 1555, lle cyfansoddodd englynion dychan i Ruffudd Hiraethog (y ‘cyff cler’ yno). Graddiodd yn bencerdd yn eisteddfod Caerwys, 1568, a pherthyn felly i'r genhed'aeth olaf o'r prif benceirddiaid. Nid yw dyddiad ei farw'n hysbys, ond cynhwysir ef mewn marwnad i ugain o wŷr wrth gerdd a briodolir i Wiliam Llŷn (bu f. 1580) ac i Siôn Tudur (bu f. 1602). Cyfeiria'r farwnad at ei ffraethineb a'i ddysg. Canodd i aelodau o deuluoedd Bodeon, Cochwillan, Glynllifon, Llyweni, Plas Newydd, a Rhiwaedog. Cyfeirir at ei lyfr achau yn Pen. MSS. 133, 134, a 135.
Llyfryddiaeth:
- Pen. MSS. 81 (127), 121 (215), 147 (203);
- Llanst. MS. 125;
- N.L.W. Swansea MS. 1 (215);
- Jes. Coll. MS. 15 (380);
- N.L.W. MS. 6496 (138);
- J. C. Morrice, Barddoniaeth Wiliam Llŷn;
- Y Llenor, i, 789.
Awdur:
Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth