LEWIS, BENJAMIN (bu f. 1749), emynydd;
o Gasnewydd-ar-Wysg, sir Fynwy. Ychydig a wyddys amdano ef na'i yrfa. Yn 1750, blwyddyn ar ôl ei farw, cyhoeddwyd llyfryn yn dwyn y teitl, Tri Chyflwr y Cristion … a gymerwyd allan o'r Saesnaeg: At ba rai y chwanegwyd ychydig o Hymnau, neu Ganiadau Ysbrydol i ddifyrru'r Pererynion tra fyddont yn ymdeithio trwy Anialwch y Byd presennol ti a'r Ddinas Nefol. Argraffwyd y llyfryn hwn ym Mryste gan Sam. Farley, ac y mae iddo ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir nifer o ddyfyniadau o'r Ysgrythur yn dangos ‘tri Chyflwr’ dyn: (1) ‘Yn druenys wrth Natur’; (2) ‘Yn gyssurys trwy râs’; (3) ‘Yn orfoleddus mewn gogoniant.’ Cynhwysa'r ail ddwy gyfres o emynau. Ar ddiwedd y gyfres gyntaf ceir enw yr awdur, Benjamin Lewis. Ni cheir yr un enw ar ddiwedd yr ail gyfres, ond gellir yn rhwydd dybio mai ef oedd ei hawdur. Bu f. yn 1749.
Llyfryddiaeth:
- Benjamin Lewis, Tri Chyflwr Cristion (Bryste, 1750).
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth