LEWIS, Syr GEORGE CORNEWALL (1806-1863), gwleidyddwr;
g. yn Llundain, 21 Ebrill 1806, mab hynaf (Syr) Thomas Frankland Lewis [q.v.]. Cafodd ei addysg yn ysgol Eton ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr yn 1831. Bu'n gweithredu ar amryw gomisiynau ymchwil y Llywodraeth; yn 1839 dilynodd ei dad fel comisiynwr o dan Ddeddf y Tlodion (‘Poor Law Commissioner’). Bu'n gyfrifol i raddau helaeth iawn am y ‘Poor Law Amendment Act,’ 1841. Pan sefydlwyd y ‘Poor Law Board’ yn 1847 — ac yr oedd Lewis yn cydolygu â chymryd y cam hwn — daeth ei swydd ef i'w therfyn. Daeth yn aelod seneddol dros swydd Henffordd yr un flwyddyn; bu'n dal tair swydd nad oeddynt yn bwysig; eithr collodd ei sedd yn 1852. Yna daeth yn olygydd yr Edinburgh Review, 1852-5. Pan fu ei dad f. fe'i dilynodd yn aelod seneddol bwrdeisdrefi Maesyfed, a daeth ar unwaith yn ganghellor y trysorlys yng ngweinyddiaeth gyntaf Palmerston (1855-8). Yn ail weinyddiaeth Palmerston bu'n ysgrifennydd cartrefol ac wedyn yn ysgrifennydd rhyfel. Bu f. yn Harpton Court, 13 Ebrill 1863, yn 56 oed. Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau niferus yn y D.N.B. ‘The most rapid political rise of our time’ oedd disgrifiad Walter Bagehot o'i yrfa.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- G. F. Lewis (gol.), Letters of Sir George Cornewall Lewis, 1870;
- S. Webb and B. Webb, English Poor Law History, Part II, The Last Hundred Years, 1927.
Awdur:
Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth