Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS DARON (fl. c. 1520), bardd o Aberdaron. Yr oedd teuluoedd Bodeon, Bodfel, Cochwillan, Glynllifon, a Gwydir ymhlith ei noddwyr. Canodd hefyd farwnad i Dudur Aled. Yn ôl Pen. MS. 122 (122) fe'i claddwyd yn Nefyn, serch bod ffynonellau eraill yn dweud mai yn Llanegwad yn sir Gaerfyrddin y claddwyd ef. Argraffodd ‘Myrddin Fardd’ gyfran o'i waith yn Cynfeirdd Lleyn.

Llyfryddiaeth:

  • Llanst. MSS. 123 (317, 556, 572), 124 (263), 125 (282);
  • N.L.W. Brogyntyn MS. 4 (122);
  • N.L.W. MS. 872 (463).

Awdur:

Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth