Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS (neu LEWES), DAVID (1520?-1584), prifathro cyntaf Coleg Iesu, Rhydychen; g. yn Abergafenni, mab hynaf Lewis Wallis, ficer Abergafenni a Llandeilo Pertholau, a Lucy ei wraig, merch Llewelyn Thomas Lloyd o Fedwellty. Addysgwyd ef yng Ngholeg All Souls, Rhydychen; graddiodd B.C.L., 1540, a D.C.L., 1548, a gwnaed ef yn gymrawd o'i goleg. Bu'n brifathro New Inn Hall, yn feistr yn y siawnsri, yn aelod seneddol dros Steyning ac yna dros sir Fynwy: yna, am flwyddyn (1571-2), yn brifathro Coleg Iesu. Er 1558 bu'n farnwr uchel lys y Morlys a bu'n flaenllaw gyda'r gwahanol achosion morwrol a gododd yn ystod oes Elisabeth. Awgrymodd hefyd foddion i wella cyflwr cynhyrfus rhai mannau o Gymru. Bu farw'n ddi-briod yn Llundain, 27 Ebrill 1584, a'i gladdu 24 Mai yn Abergafenni, ym mhen gogleddol yr eglwys, a elwir ar ei ôl.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth