LEWIS, DAVID (1683?-1760), bardd a dramaydd
a aned yng Nghymru, ond a gafodd gryn enwogrwydd yn Lloegr. Ymddengys mai efe oedd mab Roger Lewis o Landdewi Efelffre, yn sir Benfro, a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 4 Ionawr 1698 (B.A. yn 1702). Efallai iddo fod ar un adeg yn is-athro yn Ysgol Westminster. Cyhoeddodd, yn 1726, Miscellaneous Poems by Several Hands; ynddo ceir cyfieithiadau o weithiau Martial, Horas, ac Anacreon, a cherdd bob un gan Dyer a Pope; ond ni ellir adnabod rhan Lewis yn y gyfrol. Yn 1726 cyhoeddodd Philip of Macedon, trasiedi ar fesur di-odl, a gyflwynwyd i Alexander Pope; fe'i chwaraewyd hi bedair gwaith, yn gyntaf yn Lincoln's Inn Fields yn 1727. Yn 1730 cyhoeddodd ail gasgliad, sef Collection of Miscellany Poems, a gyflwynwyd i'r iarll Shaftesbury. Ceir rhai o'i benillion annerch i Pope yn Collection of Pieces on the Occasion of the Dunciad (golygwyd gan Savage), 1732. Bu f. yn Low Leyton, Essex, yn Ebrill 1760, a chladdwyd ef yno. Yn ôl ei gofadail yr oedd ei wraig yn ferch i fasnachwr yn Leyton.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni