LEWIS, DAVID (1828-1908), cerddor;
g. 12 Tachwedd 1828 yn Tŷ-canol, Llanrhystyd, sir Aberteifi, mab Lewis a Margaret Lewis. Yr oedd ei dad yn ganwr da ac yn cynnal ysgolion canu, ac efe a Thomas Jenkins, athro ‘Ieuan Gwyllt,’ a ddysgodd gerddoriaeth iddo. Yn 10 oed gallai ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd, ac yn 15 oed dechreuodd gyfansoddi a chynnal ysgolion canu. Enillodd ei wobr gyntaf am gyfansoddi tôn M.B.D. o dan feirniadaeth ‘Tanymarian’; enillodd lawer o wobrwyon wedi hyn o dan feirniaid gorau Cymru. Enillodd ddwy wobr yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr, 1868; dwy yn Abertawe, 1868; tair yn Llandudno, 1864; ac un yn Aberystwyth, 1865. Cyhoeddwyd nifer o'i gyfansoddiadau yn Y Cerddor Cymreig, Greal y Corau, Y Gerddorfa, a Cronicl y Cerddor. Cydolygodd â ‘Gwilym Gwent’ gasgliad o donau, Llawlyfr Moliant, at wasanaeth y Bedyddwyr, cynorthwyodd gyda'r casgliad Caniadau y Cysegr a'r Teulu (Gee), a bu ganddo law mewn cynorthwyo ynglŷn â phob casgliad o donau wedi hyn. Gwasanaethodd fel beirniad cerddorol ar hyd a lled Cymru. Cyfansoddodd lawer iawn o donau a chafwyd casgliad ohonynt gan J. T. Rees. Treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn gwneuthur ymchwil i awduron tonau ac emynau. Bu f. 6 Hydref 1908, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanrhystyd. Brawd iddo oedd John Lewis (‘Eos Glyn Wyre’ [q.v.]).
Llyfryddiaeth:
- Y Cerddor, 1902 a Tachwedd 1908.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn