LEWIS, DAVID (1848 - 1897), cyfreithiwr

Enw: David Lewis
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1897
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 22 Tachwedd 1848 yn rhanbarth S. Thomas, Abertawe, yn fab hynaf i John Lewis, ustus heddwch. Addysgwyd ef yn Abertawe a Llanymddyfri, ac aeth i Goleg Caius yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn B.A. yn 1872. Gwnaed ef yn fargyfreithiwr (Inner Temple) yn Nhachwedd 1873, ac ymunodd â chylchdaith De Cymru. Yn 1888 apwyntiwyd ef yn ddirprwywr cynorthwyol i holi ynghylch gwaddolau yn sir Ddinbych. Apwyntiwyd ef yn gofiadur cyntaf Abertawe yn 1891, eithr ymddiswyddodd yn 1893 ar ei apwyntiad fel un o farnwyr llysoedd sirol cylch canolbarth Cymru. Yr oedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Cymmrodorion, ac etholwyd ef i gyngor y gymdeithas yn 1877. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cyhoeddi hen destunau a dogfennau Cymreig, ac yr oedd yn awdur amryw erthyglau hanesyddol; yn eu plith y mae ' The Welshman of English Literature,' yn Cymm., 1882, a Red Dragon, 1886; ' The English Statutes relating to Wales, ' yn Wales, 1894-5; ' The Court of the President and Council of Wales and the Marches, 1478-1575,' yn Cymm., 1897; ' Notes on the Charters of Neath Abbey, ' yn Archæologia Cambrensis, 1887; ' A Progress through Wales in the 17th century ' (h.y. Henry, dug Beaufort), yn Cymm., 1883. Cyhoeddwyd nifer o'r rhain yn ddiweddarach fel pamffledi. Golygodd hefyd 4ydd argraffiad The Law of Collieries gan C. Fowler. Bu farw 9 Medi 1897.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.