Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, Syr ALFRED EDWARD (1868-1940), bancer; g. yn Birmingham, 2 Awst 1868, mab y Parch. John Lewis, gweinidog eglwys Gymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Wood Street. Cafodd ei addysg yn Ysgol Edward VI, ac aeth i wasanaeth y Bradford District Bank. Yn 1910 penodwyd ef yn rheolwr cyffredinol y banc hwnnw, a phan unwyd y banc â'r National Provincial Bank yn 1919 penodwyd ef yn gydreolwr cyffredinol y National Provincial Bank. Daeth yn brif reolwr cyffredinol yn 1922, yn un o'r cyfarwyddwyr yn 1929, ac yn ddirprwygadeirydd y banc yn 1934. Gwnaed ef yn farchog (K.B.E.) yn 1921, a chafodd radd doethur er anrhydedd gan Brifysgol Birmingham yn 1934. Cafodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, 1935. Yr oedd yn aelod o gyngor Coleg y Gogledd ac o gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Priododd, 1896, Mary Roberts, Chapel Allerton, Leeds. Bu f. 21 Chwefror 1940. Brawd iddo oedd Hugh D. Lewis [q.v.].

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan ei ferched;
  • H. Withers, National Provincial Bank, 1833 to 1933, 1833-1933.

Awdur:

Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A

Atodiadau a chywiriadau:

LEWIS, Syr ALFRED : cyn mynd i Bradford yn 1910, bu (1884) yng ngwasanaeth y ‘Birmingham and Midland Bank’, ac wedyn yn isreolwr y ‘Midland Bank’ yn New-Street.