LEWIS, ELLIS (fl. 1640-61), cyfieithydd;
g. yn Llwyngwern, plwyf Llanuwchllyn, sir Feirionnydd, mab Cadwaladr Lewis ap Howel ap John a'i wraig Elizabeth ferch Ellis Fychan, Brynllech, plwyf Llanuwchllyn. Ychydig a wyddys am Ellis Lewis ar wahân i gyfeiriadau ato ef a'i dad yn y ‘Subsidy Rolls,’ etc. Priododd Ellen, ferch Robert Anwyl o'r Parc, plwyf Llanfrothen, a'i wraig Catrin, merch Syr John Owen, Clenennau, plwyf Penmorfa. Y mae ar gael ddogfen, 16 Awst 1641, yn dangos fod gan Ellis Lewis diroedd ym mhlwyfi Llanuwchllyn a Llanycil. Yn 1661 cyhoeddwyd Ystyriaethau Drexelius ar Dragwyddoldeb Gwedi eu cyfieithu yn gyntaf yn Saesonaeg gan Dr. R. Winterton, ac yr awrhon gan Ellis Lewis o'r’ Llwyn-gwern yn Sir Feirion, Wr-bonheddig (Rhydychen, 1661).
Llyfryddiaeth:
- ‘Subsidy Rolls,’ 1600 a 1630;
- gwybodaeth gan Mr. P. H. Lawson, Caer, ynglŷn â'r Anwyliaid.
Awdur:
Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor