Ceir hanes ei yrfa yn y D.N.B., ac felly nid oes eisiau yma ond cyfeirio mewn byr eiriau ato. Bu'n trafaelio ac yn byw yn Ewrop; yr oedd ganddo o bryd i bryd swydd o dan y Llywodraeth, e.e. yn Paris (1700 neu 1701). Ym mis Mehefin 1702 yr oedd yng Nghaerfyrddin, yn athro ysgol, efallai. Daeth yn ysgrifennydd i Robert Harley (iarll Oxford wedi hynny) yn 1704 ac yn 1708 yr oedd yn ysgrifennydd i Lywodraeth Prydain yn Brussels; bu wedyn yn is-ysgrifennydd gwladol yn Lloegr o dan iarll Dartmouth, etc. O 1710 ymlaen ceir cyfeiriadau mynych at Lewis gan y deon Swift yn ei Journal to Stella; yr oedd Lewis yn aelod o gylch llenyddol a gwleidyddol a gynhwysai Swift, Robert Harley, Alexander Pope, John Arbuthnot, a gŵr na enwir mohono yn y cysylltiad hwn yn y D.N.B., sef Thomas Mansel (barwn 1af Mansel), Margam [q.v.]. Ceir amryw lythyrau, 1700-13, oddi wrth Lewis at Mansel yng nghasgliad Margam a Penrice yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru — llythyrau sydd yn llawn o newyddion (a siaradach) gwleidyddol, milwrol, a chymdeithasol, ac yn taflu llawer o olau ar hanes Lloegr ac Ewrop; yn un ohonynt (16 Medi 1704) dywed Lewis ei fod yn gobeithio ceisio prynu ‘the Estate late Sir Rice Rudds, in Caermarthenshire.’ Ym mis Hydref 1712 cafodd swydd (‘provost-marshall-general’) yn y Barbadoes, eithr cyflogodd ddirprwy i'w llanw drosto; ym mis Tachwedd y flwyddyn honno dewiswyd ef yn aelod seneddol dros Lostwithiel, Cernyw. Priododd, 1 Hydref 1724 (yn S. Benet, Paul's Wharf, Llundain), Anne Bateman (gynt Jennings), gweddw Thomas Bateman, a bu'n byw yn Cork Street, Burlington Gardens, Llundain. Bu Lewis f. 10 Ionawr 1754 a chladdwyd ef yn abaty Westminster; claddesid eiwraig yno eisoes (25 Tachwedd 1736). Gadawodd eiddo mewn gwahanol blwyfi yng Nghymru.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth