Â'i frawd iau, Evan Lewis, y bydd a fynno'r gweddill o'r nodiadau hyn. Fe'i ganwyd (wedi marw ei dad) 18 Tachwedd 1818. Bu yn Ystrad Meurig, yna mewn ysgol yn Aberystwyth, ac yn ddiwethaf yn ysgol ei ewythr David (uchod) yn Twickenham. Yn Ebrill 1838 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen; graddiodd yn 1841; yn nyddiau ei goleg, yr oedd yn rhwyfwr nodedig, a than ei gapteiniaeth ef yr aeth cwch y coleg yn ‘ben yr afon.’ Urddwyd ef gan esgob Bangor (Bethell) yn 1842. Cafodd guradiaethau yn Llanddeusant (Môn), 1842-3; Llanfaes a Phenmon, 1843-5; Llanfihangel Ysgeifiog, 1845-6; a Llanllechid, dan J. H. Cotton [q.v.], lle y bu o 1847 hyd 1859 — merch i Cotton oedd ei wraig gyntaf. Yn 1859, cafodd ficeriaeth bwysig Aberdâr, a bu yno hyd 1866, pan roddwyd iddo reithoraeth Dolgellau. Codwyd ef yn ddeon Bangor yn 1884 a bu f. yno 24 Tachwedd 1901; claddwyd yn Llandygai. Yr oedd Evan Lewis yn un o ffigurau pwysicaf ei esgobaeth, bron ar hyd ei yrfa faith. Gyda chefnogaeth yr esgob Bethell — yr unig esgob Cymreig ar y pryd a gymeradwyai'r Mudiad Tractaraidd — ac yng nghwmni gŵr fel Morris Williams (‘Nicander’) a Griffith Arthur Jones a Philip Constable Ellis (gw. yr ysgrifau arnynt), ymdrechodd yn egnïol ac yn llwyddiannus i ledaenu egwyddorion ac arferion Mudiad Rhydychen yn esgobaeth Bangor. Yn Llanllechid, diddymodd yr hen arfer yno o ganu emynau yn lle'r ‘Te Deum’ a'r ‘Magnificat,’ mynnodd gael llafar-ganu i mewn i'r moddion, a chychwynnodd draddodiad o ganu corawl — yn yr un modd, yn Nolgellau, mynnodd le i'r siant ‘Gregoraidd.’ Pan nad oedd eto ond curad, bu'n dadlau'n frwd (‘Dadl Bangor’) mewn anerchiadau ac ysgrifau ym mhlaid egwyddorion ‘Catholig,’ yn erbyn Ymneilltuwyr fel John Phillips a William Davies [qq.v.]; un o ffrwythau'r ddadl oedd ei lyfr, 1851, Yr Olyniaeth Apostolaidd. Darllenodd bapur ar ‘Yr Eglwys yng Nghymru’ yng nghynhadledd eglwysig Abertawe, 1879. Yr oedd yn Gymreigiwr pybyr; cododd eglwys Gymraeg yn Aberdâr, a chyfieithodd nifer o emynau.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.