LEWIS, FRANCIS (1713 - 1802), un o'r rhai a arwyddodd y 'Declaration of Independence', U.D.A.

Enw: Francis Lewis
Dyddiad geni: 1713
Dyddiad marw: 1802
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o'r rhai a arwyddodd y 'Declaration of Independence', U.D.A.
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Dywed Julia Delafield (ei or-or-ŵyres) yn ei Biographies of Francis Lewis and Morgan Lewis (New York, 1877) iddo gael ei eni yn Llandaf, yn fab 'rheithor y plwyf,' a'i fam 'The daughter of the Rev. Dr. Pettingal, also a clergyman of the Established Church and settled at Carnarvon.' Rhydd y Dictionary of American Biography, ar bwys tystiolaeth a gafwyd gan un o'i ddisgynyddion, 21 Mawrth yn ddydd ei eni a dywed ei fod 'the only child of the Rev. Francis Lewis, rector of Llandaff, Glamorganshire, Wales, and Amy Pettingal of Caernarvon.' Y mae'n amlwg bod cyfeirio at 'Parish of Llandaff' yn anghywir; nid oes hanes am yr un Dr. Pettingal yn ficer Llanbeblig, y plwyf yr oedd bwrdeisdref Caernarfon ynddo y pryd hwnnw. Bu gan yr aldramon Francis Pettingale, Casnewydd-ar-Wysg, sir Fynwy, a fu farw yn 1726, blant: Francis, ficer S. Gwynllyw (a fu yntau farw yn 1726; rhydd y D.N.B. hanes ei fab ef, Dr. John Pettingal, hynafiaethydd enwog); Richard, a fu'n aldramon yng Nghasnewydd; Mary, a gafodd yr hyn oedd yn weddill o eiddo ei thad ac unig ysgutores ei ewyllys (bu hi farw yn ddibriod yn 1740); Anne, a briododd Morgan Lewis; ac eraill. Yn ei hewyllys, sydd wedi ei dyddio 29 Ebrill 1740, gadawodd Mary Pettingal y rhan fwyaf o'i heiddo i'w neiaint, Francis Lewis a Hanbury Pettingal. Enwyd y ddau gefnder yn ysgutorion eithr Hanbury Pettingal a brofodd yr ewyllys, a byddai hyn yn gyson ag ymadawiad Francis Lewis am Efrog Newydd ryw bum mlynedd cyn hynny. Gadawodd Mary Pettingal hefyd £200 i Charles Griffiths, Llanaravon, plwyf Llanfrechfa, sir Fynwy, a John Cadogan, Casnewydd, i'w gosod ar log a'r llog i'w dalu i'w chwaer Anne Lewis yn ystod bywyd Anne ac wedi hynny i'r ddau nai. (Y mae'n bosibl i'r awduron a enwyd eisoes gamddarllen 'Caernarvon' ar gam am Llanaravon). Y mae'n bur sicr mai mab Morgan ac Anne Lewis, Casnewydd, oedd Francis Lewis.

Cafodd Francis Lewis ei addysg yn Ysgol Westminster. Ymfudodd i America (yn 1734 yn ôl Delafield; yn 1738 yn ôl Dictionary of American Biography) ac ymsefydlodd fel marsiandwr, gan fordeithio'n fynych er lles ei fasnach. Cymerodd ran amlwg yn yr aflonyddwch a arweiniodd i'r gwrthryfel a thorrodd ei enw, fel cynrychiolydd o Efrog Newydd, ar y 'Declaration of Independence' - unig lofnodiad brodor o Gymru. Bu farw 31 Rhagfyr 1802.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.