LEWIS, GEORGE (c.1640?-1709?), clerigwr ac awdur.
Tybir mai un o gyffiniau Llanboidy yn sir Gaerfyrddin ydoedd; ordeiniwyd ef yn ddiacon 2 Mehefin 1667, ac yn offeiriad 21 Medi yr un flwyddyn. Gwasanaethodd fel curad yn Sain Cler ac efallai yn Llanboidy. Dichon mai ef a ddyrchafwyd yn rheithor Henllan Amgoed yn yr un gymdogaeth, 3 Mehefin 1668, ac yn yr un flwyddyn (14 Medi) sefydlwyd ef yn ficer Abergwili. Daeth ei olynydd yno ym Medi 1709. Cyhoeddwyd yn Llundain yn 1704 lyfryn 26 tudalen, a briodolir iddo, dan y teitl Cyngor Difrifol i Geidwaid Tai i Osod i fyny Addoliad Duw yn eu Teuluoedd. Gyda Gweddiau Beunyddiol.
Llyfryddiaeth:
- Moses Williams, Cofrestr o'r holl lyfrau printiedig, 1717;
- W. Rowlands, Llyfr. y Cym.;
- T. Parry, H. Llen. Gymr., 205;
- Cofrestri esgobol Tyddewi yn N.L.W.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth