Yn 1812 symudodd Jenkin Lewis [q.v.], llywydd yr academi Annibynnol yn Wrecsam, i Fanceinion, fel pennaeth ar academi gyffelyb, a gwahoddwyd George Lewis gan y Bwrdd Cynulleidfaol yn Llundain i gymryd gofal yr athrofa yn Wrecsam. Cafodd ddwy alwad, o Lerpwl ac o Lanfyllin, yn 1815. Ni fynnai'r Bwrdd iddo symud yr athrofa o Gymru, ond nid oedd wrthwynebiad iddo symud o Wrecsam i Lanfyllin (1815-21). Symudodd drachefn i'r Drefnewydd (1821), ond ymhen hanner blwyddyn bu f. yno, 5 Mehefin 1822.
Fel esboniwr Ysgrythurol a diwinydd, safai George Lewis o'i ysgwyddau yn uwch na neb arall o'i gyfoeswyr. Yr oedd ei lyfrau a'i bamffledau yn ffrwyth astudiaeth fanwl o'r Beibl. Am gytbwysedd barn ac ymresymiad pwyllog safai ar ei ben ei hun. Ni welir yn ei lyfrau ddim o'r ormodiaith a oedd yn nodweddiadol o erthyglau dadleuol y cyfnod. Cyhoeddodd lu o bamffledau gwerthfawr ar bynciau diwinyddol a nifer o lyfrau bychain mewn geiriau syml, ac emynau unsill, at wasanaeth ysgolion Sul ac ysgolion eraill. Bwriadodd gyhoeddi ‘Esboniad ar y Testament Newydd,’ ond ni orffennodd y gwaith. Cyhoeddodd y tair gyfrol gyntaf pan oedd yn weinidog yn Llanuwchllyn (1802), a'r bedwaredd pan oedd yn llywydd yr academi yn Wrecsam (1815). Cyhoeddwyd y gweddill — sef tair cyfrol — ar ôl ei farwolaeth gan Edward Davies [q.v.], ei gyd-athro a'i fab-yng-nghyfraith; mwy na thebyg mai Edward Davies a ysgrifennodd yr esboniad ar Lyfr Datguddiad yn llwyr. Ond prif waith George Lewis oedd Drych Ysgrythyrol neu Gorph o ddifinyddiaeth yn cynnwys eglurhad a phrawf o amrywiol ganghennau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, 1796. Esboniwr beiblaidd, diwinydd, ac athro oedd George Lewis. Nid oedd fel pregethwr yn yr un dosbarth â John Elias a Christmas Evans a Williams o'r Wern. Ni feddai huodledd y cyntaf na dychymyg yr ail na chyfaredd yr olaf. Ond bu'r Drych Ysgrythyol yn werslyfr mewn colegau diwinyddol hyd ddiwedd y 19eg g.
Y Parch. Thomas Lewis, M.A., B.D., (1868-1953), Talybont-ar-Wysg / Aberhonddu
Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch, Aberystwyth