Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, GEORGE (‘Eiddil Llwyn Celyn ’; 1826?-1858), crydd a bardd g. mewn bwthyn ym mynydd-dir sir Gaerfyrddin, mab gweithiwr amaethyddol ag iddo deulu mawr. Ychydig o addysg a gafodd, ond yr oedd iddo ddiddordeb dwfn mewn barddoniaeth Gymraeg. Daeth gyda'i deulu i Heolyfelin (Trecynon), gan weithio wrth ei grefft o grydd a rhoi rhai o'i oriau hamdden i farddoni a chystadlu mewn eisteddfodau lleol. Enillodd wobr yn eisteddfod y Carw Coch (Stag Inn) — gw. Gardd Aberdar, 1854 — a gwobrwyon eraill ym Mlaenau Gwent a Llanilltyd Faerdref. Bu f. Chwefror 1858 yn yr oedran cynnar o 32, gan adael gweddw a naw o ferched bach. Cyhoeddodd ei frawd William Lewis (‘Cawr Dâr’), a Carw Coch’ (W. William [q.v.]), lyfryn yn cynnwys ei weithiau, Telyn y Gweithiwr, caneuon, pryddestau, ac englynion … Dros ei Weddw a'i amddifaid galarus, 1859.

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr