Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, Syr HENRY (1847-1923), lleygwr blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru , mab i THOMAS LEWIS (1821-1897), a oedd yntau'n fab i Thomas Lewis o Lanwenllwyfo a Chemaes ym Môn (J. E. Griffith, Pedigrees, 257). Sefydlodd Thomas Lewis yr ail yn 1840 fasnach ŷd a blawd, lwyddiannus iawn, ym Mangor. O 1886 hyd 1894 bu'n aelod seneddol dros Fôn, gan ddilyn Richard Davies [q.v.]. Teithiodd gryn lawer, a byddai'n darlithio mor fynych ar Balesteina nes cael yr enw ‘Thomas Palestina Lewis.’ Bu f. 2 Rhagfyr 1897. Ganwyd Henry Lewis ym Mangor, 21 Tachwedd 1847, ac addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, ac yng Ngholeg y Methodistiaid Calfinaidd, y Bala. Tyfodd yn ŵr pwysig iawn ym Mangor, ac yn ei gyfundeb yng Ngogledd Cymru. Bu'n gymwynaswr mawr i Goleg y Gogledd, yn enwedig pan aethpwyd ati i sicrhau tir at godi adeiladau newyddion y coleg. Cyhoeddodd yn 1901 (gyda H. Barber) The History of Friars School, Bangor, ac yn 1907 lyfr ar Eglwys y Tabernacl, Bangor, sy'n cynnwys hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar hanes y dref. Priododd (1872) ag Anne, ferch Roger Edwards [q.v.]; cawsant saith o blant. Urddwyd ef yn farchog yn 1911. Bu f. 16 Tachwedd 1923.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • papurau yn Llyfrgell Coleg y Gogledd;
  • ar Thomas Lewis, gw. ymhellach W. Hobley, Meth. Arfon, vi, 290 sqq.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.