Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, HUBERT (1825-1884), gŵr o'r gyfraith; ail fab Edward Clapham Lewis, Ripon, sir Gaerefrog. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, a daeth yn fargyfreithiwr (Middle Temple) ym mis Mai 1854. Bu'n ŵr prysur yn ei alwedigaeth, yn arbennig fel un yn trefnu trosglwyddiadau (‘conveyances’), eithr gwnaeth fwy o enw iddo'i hun fel ysgrifennwr ar rai materion cyfreithiol. Ymysg ei gyhoeddiadau y mae Principles of Conveyancing, 1863; Principles of Equity Drafting, 1865; yr oedd cyn hyn (sef yn 1862) wedi cyhoeddi argraffiad o Goldsmith, Equity. Ei bennaf hawl i goffâd, fodd bynnag, oedd paratoi The Ancient Laws of Wales; cyhoeddwyd hwn yn 1889, wedi marw'r awdur, a'i olygu gan (Syr) John Edward Lloyd, a oedd ar y pryd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Nid ydys hyd yn hyn wedi amgyffred gwerth y gwaith hwn gan arloeswr yn hanes cyfraith Cymru ac, yn arbennig, waith gŵr a geisiodd wneuthur astudiaeth gymariaethol o'r gyfraith honno. Yr oedd Lewis wedi ymneilltuo beth amser cyn ei f., 6 Mawrth 1884, ym Margate.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Hutchinson, A Catalogue of Notable Middle Templars, 1902;
  • F. Boase, Modern English Biography, 1897.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth