Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS HUDOL (fl. yn y 16eg g.), bardd. Priodolir y cywydd ‘Y ddyn winfaeth ddynionfawr’ iddo mewn pedair llawysgrif: Cwrtmawr MS. 5 (386), Cwrtmawr MS. 27 (329), N.L.W. MS. 1246 (42), a N.L.W. MS. 5269 (2586), ond fe'i priodolir hefyd i Ieuan ap Gronwy: Pen. MS. 99 (57), Mostyn MS. 160 (383), Ieuan ap Huw (Jesus Coll. MS. 17 (675)), ac mewn dwy lawysgrif ni roir enw'r awdur: Pen. MS. 66 (42), Mostyn MS. 161 (292); ‘ai kavadd ai kant.’ Yn Mostyn MS. 161 y digwydd y copi cynharaf (c. 1563), ac os Lewis Hudol ydyw'r awdur rhydd hynny syniad am ei gyfnod. Priodolir ‘Er athrod trwm weithred traw’ yn Cardiff MS. 12 (295) iddo hefyd.

Awdur:

Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth