Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, HUGH (1562-1634), clerigwr ac awdur, o deulu yn nhrefdaeog Bodellog ger Caernarfon. Cyfenwid ei hendaid yn ‘William Bodellog,’ a'i daid yn ‘William ap William’; cafodd hwnnw (o'i wraig Margaret Bennett) dri mab, Ieuan, Rhys, a Lewis. Priododd Lewis ag Agnes ferch William Foxwist o'r Prysgol, o deulu o fan foneddigion, a ganed iddynt bedwar mab — Hugh, Griffith, Richard, a John. Cafodd Hugh Lewis ddigon o addysg i'w alluogi i ymaelodi yng Ngholeg All Souls, Rhydychen, ar 10 Awst 1582; rhoddir ei oedran ar y pryd yn 20; graddiodd o Hart Hall yn Ionawr 1586/7. Ymddengys i'w gariad at lenyddiaeth Cymru ddwysáu yn Rhydychen; magodd wybodaeth dda o gerdd dafod ac ystyrid ef yn gryn brydydd. Ni wyddys fawr o'i helynt am rai blynyddoedd, ond yn y blynyddoedd hynny bu wrthi'n cyfieithu traethawd gan Otto Werdmüller o Zürich a oedd wedi ei drosi yn Saesneg (1550) gan Miles Coverdale dan y teitl, A Spyrytuall and moost Precious Pearle teaching all Men to Loue and Imbrace ye Crosse. Teitl trosiad Hugh Lewis oedd Perl mewn Adfyd; fe'i cyhoeddwyd yn 1595, ac fe'i hadargraffwyd yn 1929 gan Brifysgol Cymru dan olygyddiaeth W. J. Gruffydd. Cynhyrfwyd Hugh Lewis i gyfieithu'r llyfr gan awydd i ddyrchafu moesau ei gyd-Gymry ac i gefnogi ymarfer â darllen Cymraeg. Yn 1598, codwyd ef yn rheithor Llanddeiniolen; ddeng mlynedd wedyn, penodwyd ef yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor; ac yn 1623 daeth yn olynydd i Edmund Prys yn rheithoraeth Ffestiniog a Maentwrog. Yn 1612, yr oedd wedi codi plasty ar lecyn ei hen gartref ym Modellog, ac yno y bu fyw weddill ei oes. Bu f. rywbryd cyn 6 Tachwedd 1634 — ar y dydd hwnnw y sefydlwyd canghellor ym Mangor yn ei le. Enw ei wraig oedd Ellen vch Rhytherch, a chawsant ddau fab, Morgan ap Hugh Lewis a William ap Hugh Lewis, Bu Ellen f. yn Ebrill 1634; yn Llanwnda y claddwyd hi a'i phriod.

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith, P.A.C.F., 123;
  • Foster, Alumni Oxon.;
  • W. J. Gruffydd, rhagarweiniad i'r Perl mewn Adfyd, 1929;
  • Trans. Caerns. Hist. Soc., 1944.

Awdur:

William Gilbert Williams, M.A., (1874-1966), Rhostryfan