Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, JAMES (1674-1747), gweinidog Annibynnol; g. yn Ninas Cerdin, plwyf Llandysul, sir Aberteifi, o hen deulu'r Lewisiaid o'r lle hwnnw. Dywed ei faen coffa ym mynwent eglwys Llanllawddog ei fod ‘o rieni duwiol ac elusengar.’ Urddwyd yn weinidog yn 1706 ar eglwys Pencadair, lle, mae'n debyg, yr oedd yn aelod, ac yr oedd eglwys Pantycreuddyn (Horeb wedyn) hefyd o dan ei ofal. Ef oedd olynydd y Parch. William Evans [q.v.], a daeth yn arweinydd amlwg i Ymneilltuwyr y cylch. Yr oedd yn dra Chalfinaidd ei olygiadau, a gwrthwynebai Arminiaeth yn egniol. Ef ynghyd â'r Parch. Christmas Samuel [q.v.] a ysgrifennodd Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod Gwreiddiol, 1730, yn ateb i lyfryn, Y Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol, 1729, a briodolir i Jenkin Jones, Llwynrhydowen [q.v.], gŵr a godwyd i bregethu ganddo ym Mhantycreuddyn, ond a ymadawodd a chodi ei gapel ei hun gan nad addefid ei ddaliadau gan ei hen eglwys a'i gweinidog. Gwahoddodd James Lewis y diwygiwr Howel Harris i efengylu yn ei ardal yn 1740. Bu f. 31 Mai 1747, yn 73 oed.

Llyfryddiaeth:

  • H.E.A.C., iii, 427; iv, 196;
  • W. Rowlands, Llyfr. y Cym.;
  • W. J. Davies, Hanes Plwyf Llandysul;
  • Y Cofiadur, xii, 40.

Awdur:

Y Parch. Thomas Eirug Davies, M.A., B.D. (1892-1951), Llanbedr-pont-Steffan