LEWIS, JOHN (fl. 1646-56), Glasgrug, Ceredigion, awdur Piwritanaidd;

Enw: John Lewis
Rhiant: Mary Lewis
Rhiant: James Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur Piwritanaidd;
Cartref: Glasgrug
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Tudur Jones

mab James Lewis, Cwmowen, a'i wraig Mary, aeres Glasgrug (Meyrick, History and Antiquities of Cardigan, arg. 1907, 308). Yn ystod y Rhyfel Cartrefol credai, fel Presbyteriad, y dylid derbyn y Cyfamod, ac fe'i gwobrwywyd am ei gefnogaeth i'r Senedd pan apwyntiwyd ef yn gomisiynydd tan Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650). Ymddangosodd ei bamffled o blaid y Senedd yn 1646 o dan y teitl Contemplations upon these Times. Yn ei ohebiaeth â Richard Baxter a'r Dr. John Ellis, Dolgellau, cefnogodd yr awgrym i gael coleg cenedlaethol yng Nghymru i hyfforddi gweinidogion (Wales, iii, 121-4). Yn 1656 cyhoeddodd Some Seasonable and Modest Thoughts. Yn yr un flwyddyn, fe'i gwnaethpwyd yn ustus heddwch dros Sir Aberteifi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.