LEWIS, JOHN (1792? - 1816), cenhadwr gyda'r Wesleaid

Enw: John Lewis
Dyddiad geni: 1792?
Dyddiad marw: 1816
Rhiant: Mary Lewis
Rhiant: Jenkin Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr gyda'r Wesleaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

mab Jenkin a Mary Lewis, Talsarn, Trefilan, Sir Aberteifi. Ymddengys mai Eglwyswyr oedd ei rieni; bedyddiwyd ef 23 Ionawr 1793. Addysgwyd ef yn yr ardal a than yr enwog David Davis, Castell Hywel. Ymunodd â'r Wesleaid, ac yn 1813 ceir ef yn gwasanaethu yng nghylchdaith Dolgellau. Y flwyddyn wedyn derbyniwyd ef fel cenhadwr cydnabyddedig i'w ddanfon i India'r Gorllewin. Ymsefydlodd i ddechrau ar ynys Antigua, ac aeth oddi yno i Spanish Town, Jamaica, maes a fu ynghau am dro oherwydd yr erlid. Ni lafuriodd yno fwy na rhyw dri mis cyn ei daro gan y dwymyn, a bu farw 17 Gorffennaf 1816.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.