Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS MENAI ( fl. yn ail hanner y 16eg. g. ), bardd .

Graddiodd yn ddisgybl pencerddaidd yn eisteddfod Caerwys , 1568 . Cynnwys ei waith ganu i aelodau o deuluoedd Bodeon , Bodfel , Clenennau , Llwydiarth , Myfyrian , Mysoglen , Penrhyn , Plas Newydd , ac Ystumcegid . Ceir hefyd gywyddau serch ac englynion o'i waith. Am gasgliad o'i farddoniaeth gw. Llanst. MS. 122 (236-92) .

Ffynonellau:

  • Llawysgrif Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 121 (215);
  • N.L.W. Swansea Manuscript 1 (216, 220, 248);
  • NLW MSS 6499 (307), 356 (13).

Awdur:

Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54