LEWIS, WILLIAM MORTIMER (1840 - 1880), prifathro Coleg y Bedyddwyr, Pontypŵl

Enw: William Mortimer Lewis
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1880
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg y Bedyddwyr, Pontypŵl
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd Gorffennaf 1840 ym Meidrym, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol y pentref, a than Alcwyn Evans yng Nghaerfyrddin. Pan oedd yn 13 oed, prentisiwyd ef i ddilledydd yng Nghaerfyrddin am bum mlynedd, ac yn ystod yr amser hwn derbyniodd egwyddorion y Bedyddwyr. Aeth i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1860, ac ar ôl pedair blynedd yno aeth i Brifysgol Glasgow ac yno cymerodd radd M.A. Yn 1870, aeth i Goleg Regent's Park, ond yn Chwefror 1871 apwyntiwyd ef yn athro yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mhontypŵl. Etholwyd ef yn brifathro'r coleg hwnnw yn 1877, ond collodd ei iechyd a bu farw yn yr Yswisdir 18 Hydref 1880.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.