LEWIS, PIERCE (1664 - 1699), clerigwr, a 'diwygiwr' Beibl 1690

Enw: Pierce Lewis
Dyddiad geni: 1664
Dyddiad marw: 1699
Rhiant: Elizabeth Lewis (née Lloyd)
Rhiant: Pierce Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, a 'diwygiwr' Beibl 1690
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 11 Ebrill 1664, mab i Pierce Lewis o Blas Llanfihangel (Tre'r Beirdd), cofrestrydd esgobaeth Bangor, a'i wraig Elizabeth Lloyd o'r Henblas yn Llangristiolus. Aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen yn 1681, a graddiodd yn 1684; ymddengys iddo aros yn Rhydychen hyd 1690, ac mai yno y golygodd yr argraffiad o'r Beibl a gysylltir yn gyffredin â'i gâr William Lloyd, esgob Llanelwy - llysenwid Lewis yn Rhydychen yn ' Welsh Rabbi.' Yn 1690 cafodd fywoliaeth Llanfachraeth ym Môn; yn 1693 ficeriaeth Bangor; ac yn 1698 reithoraeth Llanfairfechan. Bu farw yn Rhuthyn ym mis Mai 1699. Ni chanmolir ei argraffiad o'r Beibl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.