Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, CHARLES PRYTHERCH (1853-1923), mabolgampwr amryddawn; g. 20 Awst 1853 yn fab i Frederick Lewis, Llwyncelyn, Llanwrda (Caerfyrddin), ac addysgwyd yn Ysgol Llanymddyfri ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Graddiodd yn 1876, a bu'n athro yn ei hen ysgol am flynyddoedd lawer. Ond mewn chwaraeon yr enillodd enw yn Rhydychen; yr oedd yn ‘triple Blue’ yno, oblegid cynrychiolodd ei brifysgol yn y ras glwydydd (hurdle race), yn bwrw'r morthwyl, ac ar y maes criced. Cafodd gynnig unwaith i chwarae dros y M.C.C. yn Awstralia, ond ni allai fynd. Heblaw hyn oll, yr oedd yn gefnwr da ar y maes Rygbi, a bu'n cynrychioli Cymru bump o weithiau rhwng 1882 a 1884. Yn ddiweddarach, troes ei gefn ar waith ysgol a mynd yn gyfreithiwr, a daeth yn ŵr amlwg (yn faer ddwywaith, ac yn ustus) ym mywyd cyhoeddus Llanymddyfri. Bu f. 27 Mai 1923.

Llyfryddiaeth:

  • West. Mail, 28 Mai 1923;
  • Carm. Jnl., 1 Mehefin 1923;
  • The Sporting News, 2 Mehefin 1923;
  • The Weekly Mail, 3 Mehefin 1923.

Awdur:

Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth