Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS , TIMOTHY RICHARDS ( 1841 - 1886 ), llawfeddyg, clefydegydd, ac un o arloeswyr meddygaeth drofannol ;

g. yn yr Hafod , plwyf Llangan , sir Gaerfyrddin , 31 Hydref 1841 , yn blentyn hynaf William Lewis a Britania ( Richards ) ei wraig. Ym mhlwyf Crinow , sir Benfro , y magwyd ef, a chafodd ei addysg fore yn Ysgol Genedlaethol Arberth ac yn ysgol ramadeg Joseph a William Edward Morris yn yr un dref. Prentisiwyd ef yn 15 oed gyda fferyllydd yn Arberth , ond wedi pedair blynedd aeth i Lundain at fferyllydd yn Streatham . Oddi yno, ymunodd ag adran fferyllol yr ysbyty Ellmynig yn Dalston , lle y cafodd gyfle i ddysgu Almaeneg a dechrau ar astudiaethau meddygol . Mynychodd ddosbarthiadau Coleg y Brifysgol , 1863-6 , a dyfarnwyd medal arian Fellowes iddo yn 1866 . Graddiodd yn M.B. (gydag anrhydedd) a C.M. yn Aberdeen yn 1867 . Y flwyddyn wedyn yr oedd ar ben rhestr efrydwyr Ysgol Feddygol y Fyddin yn Netley wrth ymaelodi ac ymadael. Penodwyd ef yn llawfeddyg cynorthwyol yn y fyddin . Yn 1868 penderfynwyd danfon Lewis ac efrydydd arall i astudio damcaniaethau gwyddonwyr yr Almaen ar achosion colera ac i'w gosod ar brawf yn yr India . Felly yr aeth i'r India yn Ionawr 1869 , ar ôl treulio rhai misoedd yn yr Almaen . Am ryw bum mlynedd bu'n astudio problemau ynglŷn â cholera . Yn 1874 gwnaethpwyd ef yn gynorthwywr arbennig i'r Comisiynydd Iechydol , a helaethwyd maes ei ymchwil i gynnwys y gwahanglwyf a chlefydau dwyreiniol eraill. Yn 1870 darganfu Lewis drychfilyn a alwyd ganddo yn ‘ Filaria sanguinis hominis ,’ a elwir yn awr yn ‘ Wuchereria bancrofti .’ Yn 1877 , darganfu drychfilyn arall yng ngwaed llygod mawr , ac erys ei enw ar hwn, sef ‘ Trypanosoma lewisi .’ Gadawodd yr India yn Ionawr 1883 i gymryd swydd athro cynorthwyol mewn clefydeg yn Netley , ond cadwodd mewn cyswllt agos â Llywodraeth yr India , gan ei chynrychioli mewn cynadleddau cydwladol ar broblemau iechydol . Yn 1884-5 galwyd arno eto i ailafael yn ei ymchwil i achosion colera , ac i astudio damcaniaeth Robert Koch a ddarganfuasai'r ‘ comma-bacillus .’ Ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor gwyddonwyr a ddewiswyd i gloriannu'r ddamcaniaeth yn 1885 . Cafwyd fod pwysau'r dystiolaeth ar y pryd yn erbyn damcaniaeth Koch , ond parhaodd Lewis i astudio'r broblem. Ym mis Ebrill 1886 , cymeradwywyd ei enw i gael ei ethol yn F.R.S. , ond cyn yr etholiad yr oedd ef wedi syrthio'n ysglyfaeth i un o'r meicrobau y bu'n eu holrhain mor ddiwyd . Bu f. 7 Mai 1886 , a chladdwyd ef yn Netley . Erys ei adroddiadau yn glasuron mewn bacterioleg . Cyhoeddwyd cyfrol goffa ( In Memoriam ) iddo yn 1888 . Y mae ei lawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol ( NLW MS. 14381-14401 ).

Ffynonellau:

  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , iii, 65-8.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54