Cywiriadau

LEWIS o GAERLEON (fl. 1491), mathemategydd, diwinydd, meddyg, ac athro

Enw: Lewis O Gaerleon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mathemategydd, diwinydd, meddyg, ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Walter Thomas Morgan

yn Rhydychen. Nid yr un ydyw â Lewis Charlton, esgob Henffordd (a fu farw 1369), fel y tybir yn fynych. Y mae Bale yn ei Scriptorum Illustrium Catalogus Cent. Sex. yn rhestru chwech llyfr o'i eiddo, sef Super Magistrum Sententiarum, De Eclipsi Solis et Lunae, Tabulae Eclipsium Richardi Wallingfordi, Canones Eclipsium, Tabulae Umbrarium, a Fragmenta Astronomica. Dywedir iddo gael ei garcharu gan Risiart III oherwydd ei ymlyniad wrth achos y Lancastriaid. Mae'n wir iddo fod yn uchel ei barch gan Harri VII, canys cofnodir yn Calendar of Patent Rolls, 24 Chwefror 1486, iddo gael rhodd o 40 morc y flwyddyn am ei oes o gyllid Wiltshire, ac ar 27 Tachwedd 1486 nodir hefyd rodd ychwanegol o 20 morc am ei oes o'r cyllid gwladol, pryd y gelwir ef yn was i'r brenin ac yn feddyg. Ar 3 Awst 1488 cafodd ei ddyrchafu'n un o farchogion elusen y brenin yng nghapel neu eglwys Mair Forwyn, S. Siôr y Merthyr, a S. Edwart y Cyffeswr yng nghastell Windsor; ailadroddir termau'r rhodd ar 14 Medi 1491. Nodir yn ' Llyfr Taliadau'r Brenin,' Mai 1510, wobr o £100 mewn aur a dalwyd i ryw ' Master Lewis,' meddyg tywysoges Castile, ond ni wyddys ai Lewis o Gaerleon yw'r person hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

LEWIS o GAERLEON (Bywg, 512)

Yr oedd yn feddyg i Elizabeth, gweddw Edward IV, Margaret Iarlles Richmond ac i Harri Tudur. Gwnaeth lawer i hybu'r briodas rhwng Harri ac Elizabeth merch y frenhines Elizabeth. Y cyfeiriad olaf ato yw hwnnw yn roliau'r Trysorlys 1493-94. Cyfansoddodd dablau mathemategol a seryddol yn ymwneud â diffygion ar yr haul a'r lleuad.

Awdur

  • Dr Llewelyn Gwyn Chambers

    Ffynonellau

  • Oxford Dictionary of National Biography
  • P. Kibre, The Isis Oxford University Magazine, 43 (1952), 100

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.