LEWIS, THOMAS (1671? - 1735), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Thomas Lewis
Dyddiad geni: 1671?
Dyddiad marw: 1735
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd tua 1671, yn fab ac etifedd John Lewis, bonheddwr tiriog a Bedyddiwr o'r Glascwm a welsai lawer o ddioddef yng nghyfnod yr erledigaeth. Ymaelododd y mab, fel ei dad o'i flaen, gyda'r Bedyddwyr yn Llanllieni, o gwmpas 1692 neu o leiaf cyn 1694, a bernir iddo ddechrau pregethu yn fuan wedi hynny. Yr oedd wedi gadael Llanllieni cyn 1707, ac wedi casglu Bedyddwyr dwyrain Maesyfed at ei gilydd yn eglwys yn y Glascwm a New Radnor. Bu'n llafurus yn eu plith, a dywedir yn ystadegau'r Dr. John Evans (1715) fod ganddo gynulleidfa o 400. Yn 1728 penodwyd ef a Thomas Evans, brawd Caleb Evans, gweinidog y Pentref, Maesyfed, yn ddosbarthwyr y ' Baptist Fund ' yng Nghymru. Bu farw yn 1735, a'i gladdu mewn mynwent yn y Glascwm a roddasid i'r eglwys gan ei dad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.