Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS , THOMAS ( 1759 - 1842 ); emynydd ;

g. yng Nghwmcynwal , Llanwrda , sir Gaerfyrddin . Cafodd ychydig addysg yn ei ardal enedigol, a phrentisiwyd ef yn of . Ymsefydlodd fel gof yn Nhalyllychau , ac yno y bu ar hyd ei oes. Cafodd argraffiadau crefyddol dan weinidogaeth y Bedyddwyr , eithr William Lloyd o Gaeo [q.v.] oedd ei dad ysbrydol. Ymunodd â'r Methodistiaid yn Llansawel , ac ef oedd un o sefydlwyr yr achos yn Esgair-nant yn 1806 . Cyfrifid ef yn un o flaenoriaid amlycaf y Methodistiaid yn y sir. Enwogodd ei hun fel awdur yr emyn ‘ Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd ,’ a ymddangosodd gyntaf mewn casgliad o'r enw Hymnau ar Amryw Destunau ( Caerfyrddin , 1823 ). Bu f. 14 Medi 1842 , a chladdwyd ym mynwent Talyllychau .

Ffynonellau:

  • Y Drysorfa , 1843 , 197-9;
  • Cymru (O.M.E.) , xvi, 37-41;
  • James Morris , Efengylwyr Seion sef hanes nodweddion a dywediadau amryw o hen bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn sir Gaerfyrddin (Dolgellau, 1905) , 237;
  • The Carmarthen Antiquary , i, 15;
  • Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd , xxvii, 7;
  • J. Thickens , Emynau a'u Hawduriaid (1945) , 184.

Awdur:

Y Parchedig Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54