LEWIS, THOMAS (1823 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd

Enw: Thomas Lewis
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 3 Awst 1823 ym mhlwyf Llandeilo'r-fan, Brycheiniog. Symudodd y teulu yn 1829 i Gwmdŵr, a bedyddiwyd y mab yno yn 1837. Gweithiai mewn ffatrioedd gwlân yng Nghwmdŵr a Llanwrtyd. Dechreuodd bregethu yn 1840 ym Mhantycelyn. Addysgwyd ef yn Horeb (Cwmdŵr), ysgol ' Brutus ' ger Pentrebach, ysgol D. Williams (Annibynnol) yn Nhredwstan, ac athrofa Pontypŵl. Bu'n weinidog yn Llanddewi Rhydderch, 1848-56; Llanelli, sir Frycheiniog, 1856-9; Jerusalem, Rhymni, 1860-3; Penuel, Caerfyrddin, 1863-74; Moreia, Risca, 1874-80. Ymneilltuodd i Gasnewydd. Cyhoeddodd Cofiant … Titus Lewis, Caerfyrddin; Cofiant … James Richard, Pontypridd; Ymddygiad y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor at y Bedyddwyr; Esboniad y Teulu. Ymddangosodd ei Hunangofiant yn 1903. Y mae ei ' Hanes Eglwysi'r Bedyddwyr ym Mynwy hyd 1890,' mewn llawysgrif yn niogelfa'r sir yn Abercarn. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau, i Geiriadur Bywgraffyddol (J.T. J.), Geiriadur ' Mathetes,' a'r Gwyddoniadur. Bu farw 2 Rhagfyr 1900.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.