LEWIS, WILLIAM (1835? - 1918), argraffydd a chyhoeddwr llyfrau, Caerdydd;

Enw: William Lewis
Dyddiad geni: 1835?
Dyddiad marw: 1918
Plentyn: Sidney William Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Tewkesbury, swydd Gaerloyw. Bu'n gweithio mewn siop lyfrau yn Cheltenham cyn dyfod i Gaerdydd i weithio dros y ffyrm argraffu a sefydlasid gan John Bird yn 1791. Yn 1866 trosglwyddwyd y fusnes gan Hugh Bird i ddau o'i wasanaethyddion, sef William Lewis a John Williams, a fu'n gyd-bartneriaid hyd 1873, pryd y daeth y fusnes yn eiddo i William Lewis yn gyfan gwbl. Llwyddodd y fusnes yn fawr o dan William Lewis gan ymehangu a dyfod, yng nghwrs amser, y fusnes argraffu a chyhoeddi fwyaf yng Nghymru. Ymddeolodd William Lewis yn 1913 (fe'i dilynwyd ef gan ei fab hynaf, Sidney William Lewis), a bu farw 4 Chwefror 1918 yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.