Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, DAVID WILLIAM (1845-1920), cerddor; g. ym Mrynaman 15 Ebrill 1845. Cafodd ychydig addysg yn yr ysgol ddydd, ac wedi hynny gan ryw Prosser, Brynaman. Dechreuodd weithio yn y lofa yn 9 oed. Daeth i wybod am gerddoriaeth trwy astudio llyfrau Mills ac Eleazar Roberts. Enillodd holl dystysgrifau Coleg y Tonic Solffa, a chafodd y radd O F T.S.C.; efe oedd y cyntaf yng Nghymru i ennill y radd honno. Cynhaliodd ddosbarthiadau cerddorol mewn amryw ardaloedd yn sir Gaerfyrddin. Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a darnau i blant. Cyhoeddodd Odlau Mawl, ac ysgrifennodd gyfres o wersi cerddorol i'r Tywysydd. Cyhoeddodd hefyd Llawlyfr y Llais. Gwasnaethodd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu. Golygodd, gydag eraiil, Y Caniedydd, Y Salmydd Cenedlaethol, a'r Caniedydd Cynulleidfaol. Bu f. 20 Ionawr 1920, a chladdwyd ef ym mynwent capel Annibynwyr Gibea. Yr oedd yn ustus heddwch (1919) yn sir Gaerfyrddin.

Llyfryddiaeth:

  • Y Cerddor, 1899 a 1908.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn