LEWYS, DAFYDD (bu farw 1727), Llanllawddog, Sir Gaerfyrddin, clerigwr

Enw: Dafydd Lewys
Dyddiad marw: 1727
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

Fe'i gofir fel cyhoeddwr Flores Poetarun Britannicorum, 1710, ac fel awdur Golwg ar y Byd, 1725. Cafodd ficeriaeth Llangatwg, Glyn Nedd, Morgannwg, 21 Awst 1718, ac yno y claddwyd ef 21 Ebrill 1727.

Yn Llanllawddog yr oedd yn 1710; bu gŵr o'r enw (a ordeiniwyd yn offeiriad ar 1 Tachwedd 1715) yn gurad Llanllawddog a Llanpumsaint yn 1715-6. Ei waith ef hefyd yw Bwyd Enaid (1723), llyfryn o benillion wedi eu seilio ar adnodau o'r Beibl, a throsto ef ac eraill yr argraffwyd Gemmeu Doethineb Rhys Prydderch (1714), Llythyr at y Cyfryw o'r Byd, 1716, ac, yn ôl pob tebyg, Pregeth a Bregethwyd … Mehefin y 7, 1716 … Gan … Gwilim Arglwydd Esgob Ely , 1716. Ceir llawysgrif wreiddiol Golwg ar y Byd yn NLW MS 4563B: David Lewis: Golwg ar y Byd mawr... .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.