Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LHUYD , EDWARD ( 1660 - 1709 ), botanegwr, daearegwr, hynafiaethydd, ac ieithegwr .

Yr oedd yn fab anghyfreithlon i Edward Lloyd o Lanforda , ger Croesoswallt , a Bridget Pryse o Lan-ffraid , ger Talybont , sir Aberteifi . Fe'i ganed ym mhlwyf Lappington a'i fagu yno yn Krew Green am naw mlynedd gan famaeth o'r enw Catherine Bowen . Aeth i ysgol ramadeg Croesoswallt , lle y bu'n athro , y mae'n debyg, yn ddiweddarach. Y mae tystiolaeth bendant ei fod yn ymddiddori mewn hynafiaethau , yn arbennig achyddiaeth a herodriaeth , erbyn y flwyddyn 1681 ; yn y flwyddyn honno dywed ei dad mewn llythyr fod ei fab yn dra hyddysg mewn achau ; a dengys ei lawysgrifau na pheidiodd y diddordeb hwn ar hyd ei oes er ehanged y lledodd meysydd ei astudiaethau. Ar 31 Hydref 1682 ymaelododd fel myfyriwr yng Ngholeg Iesu , Rhydychen , ac yn fuan ar ôl ymaelodi cymerodd swydd fel cynorthwywr i Dr. Plot , yr athro cemeg a cheidwad cyntaf Amgueddfa Ashmole , a agorwyd ar 21 Mai 1683 . Parhaodd cysylltiad Lhuyd â'r amgueddfa hon hyd ei farwolaeth. Yn fuan ar ôl agor Amgueddfa Ashmole , sefydlwyd Cymdeithas Athronyddol Rhydychen , a dyry ei chofnodion wybodaeth am rai o arbrofion a darganfyddiadau cynharaf Lhuyd gyda'r gwyddorau arbrofol a naturiol ; gwneud papur anhylosg o fwyn asbestos ( Rhagfyr 1684 ), disgrifio planhigion o ogledd Cymru na chynhwyswyd yng nghatalog John Ray ( Ionawr 1685-6 ), etc. Yn Ionawr 1685-6 cyflwynodd i'r gymdeithas gatalog newydd o'r cregin oedd yn yr amgueddfa , o dan y teitl Cochlearum omnium tam terrestrium quam marinarum quae in hoc Museao continentur, Distributio classica juxta figurarum vicinitatem concinnata . Enillodd ei ddawn a'i weithgarwch iddo lawer o gyfeillion megis Jacob Bobart , yr athro botaneg . Yn ystod haf 1688 bu'n casglu planhigion o gwmpas Eryri , a thrwy'r Dr. Plot ac eraill daeth i gysylltiad â John Ray o Gaergrawnt . Cynhwysodd Ray yn ei lyfr, Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum , 1689-90 , restr o blanhigion o Eryri a baratoisid gan Lhuyd , a bu hyn yn ddechrau cyfeillgarwch hir rhwng y ddau. Pan ymddangosodd ail argraffiad o lyfr Ray , Collection of English Words not generally used , yn 1691 , ychwanegwyd dwy restr o eiriau a gafodd Ray gan Lhuyd , y naill wedi'i chasglu gan Lhuyd ei hun a'r llall gan Tomlinson . Yn ddiweddarach, daeth Lhuyd i gymryd mwy o ddiddordeb mewn geiriau , ond yn y cyfnod hwn ei brif bwnc oedd botaneg . Yn 1689 y mae'n debyg iddo fynd gyda Dr. Plot i'w helpu i baratoi arolwg o arfordir Caint . Yn 1690-1 penodwyd ef yn geidwad Amgueddfa Ashmole , fel olynydd i Dr. Plot . Er iddo ddal i chwilio am lysiau a phlanhigion bu newid yn ei ddiddordeb; hyd yn hyn bu'n canolbwyntio ar fotaneg , ond yn awr dechreuodd roi mwy a mwy o sylw i gerrig a ffosylau . Yng ngwanwyn 1691 aeth ar daith naw niwrnod gyda dau ddaearegwr o Ddenmarc , Seerup a Hemmer , i Salisbury , Bath , a Bryste . Ceisiodd sefydlu ‘ Clwb Daearegol ’, a byddai'n gohebu'n gyson â John Woodward , William Nicholson , a Richard Richardson . Yr oedd â'i fryd ar deithio mewn gwledydd tramor i ehangu ei ymchwiliadau; ac ar un adeg meddyliai am fynd i India'r Gorllewin ; ond erbyn Mai 1693 rhoesai'r gorau i'r bwriad hwnnw. Seithug hefyd fu ei gynllun i fynd i Gernyw .

Yn 1693 hefyd gwelir newid arall yn natur ei ymchwiliadau. O hyn ymlaen mewn hynafiaethau a ieitheg yr ymddiddorai fwyaf, er nad ymwadodd â'i astudiaethau mewn botaneg a daeareg . Cynorthwyodd ei gyfaill Edmund Gibson , wrth olygu argraffiad newydd, 1695 , o Britannia Camden , gyda nodiadau gwerthfawr ar siroedd Cymru . Erbyn hyn yr oedd Lhuyd yn cynllunio gwaith mawr hollgynhwysol ar hynafiaethau Cymru ar batrwm Natural History of Staffordshire , 1686 , gan Dr. Plot , ond cyn ymroi i'r gwaith ar gyfer hynny adolygodd ei gatalog o ffosylau Prydeinig . Yr oedd yn barod i'r wasg ganddo tua chanol Mawrth, 1697 , ond ni fynnai'r brifysgol ei gyhoeddi. O'r diwedd fe'i cyhoeddwyd yn Chwefror 1699 o dan y teitl Lithophylacii Britannici Ichnographia (120 copi yn unig), diolch i ddeg o danysgrifwyr. Yr oedd ynddo lawer o wallau print, a pharatoes Lhuyd argraffiad newydd, a gyhoeddwyd yn 1760 gan W. Huddesford .

Ymhell cyn i'r llyfr hwn ddod o'r wasg yr oedd Lhuyd wedi dechrau'i baratoadau ar gyfer ei waith ar Gymru . Er mwyn ennill cefnogaeth a chael tanysgrifwyr cyhoeddodd, yn 1695 , ‘ A Design of a British Dictionary, Historical and ‘Geographical; With an Essay entitl'd “Archaeologia Britannica”; And a Natural History of Wales .’ Ac yn 1696 dilynwyd hwn gan ‘ Parochial Queries in Order to a Geographical Dictionary, a Natural History, etc., of Wales. ’ Printiwyd 4,000 o'r Parochial Queries ac fe'u dosbarthwyd yn dri i bob plwyf. Cafodd nifer da o danysgrifwyr, ac yn 1696 , rhwng diwedd Ebrill a dechrau Hydref, gallodd ymweld ag wyth neu naw o siroedd.

Yn 1697 cychwynnodd, gyda'i gynorthwywyr William Jones , Robert Wynne , a D. Parry [q.v.] , ar ei daith fawr. Gadawodd Rydychen ym mis Mai, a chan deithio drwy swydd Gaerloyw a Fforest y Ddena , ymhen pum mis cyrhaeddodd y Bont-faen , lle yr arhosodd am ddau fis. Oddi yno aeth drwy'r deheudir hyd Aberteifi , ac yna'n ôl i Henffordd erbyn Awst 1698 . Wedyn aeth drwy ganolbarth Cymru gan fwrw'r gaeaf yn Nolgellau a chyrraedd arfordir y gogledd yn haf 1699 . Croesodd i ogledd Iwerddon ac oddi yno i'r Alban , lle y treuliodd y gaeaf. Aeth wedyn i ddeau Iwerddon , treuliodd bedwar mis arall yng Nghymru a phedwar yng Nghernyw cyn hwylio i Lydaw . Cawsai ef a'i gymdeithion lawer o drafferth hyd yn oed yng Nghymru a Chernyw , ond yn Llydaw fe'u drwgdybiwyd fel ysbïwyr; ac ar ôl cael eu dal yn St. Pol de Leon fe'u carcharwyd yn Brest am ddeunaw niwrnod. Dychwelodd i Rydychen yn Ebrill, 1701 , ar ôl ymweld â phob sir yng Nghymru a chopïo llawysgrifau ac arysgrifau , a chasglu pob math o gywreinbethau yng Nghymru , Iwerddon , yr Alban , Cernyw , a Llydaw .

Ar 21 Gorffennaf 1701 cyflwynodd y brifysgol iddo radd M.A. Ar wahân i ymweliadau byr â Chaergrawnt , Marcham , ac Appleton , treuliodd y gweddill o'i fywyd yn Rhydychen gan geisio trefnu'r holl ddeunydd a gasglasai ar ei deithiau a thrwy'r atebion i'w Parochial Queries . Bu hefyd yn darlithio ar hanes naturiaethol . Yn Hydref 1703 gyrrodd ei gyfrol gyntaf o'r Archaeologia Britannica , o dan y teitl Glossography , i'r wasg, ac fe'i cyhoeddwyd ym Mehefin 1707 , wedi'i chyflwyno i Syr Thomas Mansel o Fargam . Dyma gynnwys y gyfrol, yn ôl teitlau'r adrannau: (1) ‘ Comparative Etymology ’; (2) ‘ Comparative Vocabulary ’; (3) a (4) ‘ An Armoric Grammar and Vocabulary ’ — wedi'u cyfieithu o Ffrangeg Julian Manoir gan Moses Williams ; (5) ‘ Some Welsh Words Omitted in Dr. Davies's Dictionary ’; (6) ‘ A Cornish Grammar ’; (7) ‘ MSS. Britannicorum Catalogus ’; (8) ‘ A British Etymologicon ’ — gwaith David Parry ; (9) ‘ A Brief Introduction to the Irish or Ancient Scottish Language ’ — o ramadeg a gyhoeddwyd gan F. O. Molloy yn Rhufain yn 1677 ; (10) ‘ An Irish-English Dictionary. ’ Dilynir (10) gan gatalog byr o lawysgrifau Gwyddeleg . Bu'r Glossography yn achos siom i lawer o'r tanysgrifwyr oherwydd natur ieithegol ei gynnwys, ond cafodd groeso gan ysgolheigion Seisnig a Cheltig . Ni bu byw Lhuyd i orffen y gwaith mawr a gynlluniasai ac nad oedd y Glossography ond y gyfrol gyntaf ohono. Yn 1708 etholwyd ef yn F.R.S. , ac yn 1709 yn brif ‘ringyll (Bedel) diwinyddiaeth ’ ym Mhrifysgol Rhydychen . Ar hyd ei oes yr oedd wedi mwynhau iechyd ardderchog, ond wrth deithio drwy Ogledd Cymru yn 1698 dechreuodd ddioddef gan yr asthma . Tua diwedd Mehefin 1709 daliodd annwyd , a droes yn blewrisi ar 26 Mehefin , a bu farw 30 Mehefin . Fe'i claddwyd 31 Mehefin yn y ‘ Rhodfa Gymreig ’ yn eglwys S. Mihangel , Rhydychen . Yn 1905 gosodwyd tabled bres ar y mur yng nghapel Coleg Iesu i goffau'r Cymro nodedig hwn nad oedd carreg nac arysgrif i nodi man ei fedd.

Yr oedd Lhuyd yn un o hynafiaethwyr , naturiaethwyr , ac ysgolheigion mwyaf ei gyfnod. Gwnaeth waith arloesol o'r pwysigrwydd mwyaf mewn botaneg a daeareg , ac ef yn anad neb a sefydlodd ieitheg Geltig a chymharol . Ar wahân i'w ddau brif lyfr (gw. uchod) gwnaeth lawer o gyfraniadau eraill, er mai wedi'i farw yr ymddangosodd rhai ohonynt. Cynorthwyodd y Dr. M. Lister gyda'i Historia sive Synopsis Methodica Conchyliorum , 1685 , 1687 , 1691 ; y deon Hickes gyda'r Thesaurus Linguarum Septentionalum ; Nicholson gyda'i Historical Library ; a Collier gyda'i Historical Dictionary ; ac yn Glossarium Antiquitatum Britannicarum , 1719 , gan William Baxter , ceir traethawd o waith Lhuyd ar ystyr enwau lleoedd Cymraeg . Ceir nifer o nodiadau ac erthyglau ganddo yn y Philosophical Transactions , rhifau 166, 200, 208, 213, 229, 243, 252, 269, 292, 295, 314, 316, 334, 335, 336 — y saith olaf wedi iddo farw.

Gwrthododd Coleg Iesu a Phrifysgol Rhydychen brynu ei lawysgrifau, ac fe'u gwerthwyd i Syr Thomas Sebright . Yn ddiweddarach gwerthwyd llawysgrifau Sebright ac fe'u gwasgarwyd. Ymhlith y prynwyr yr oedd Syr Watkin Williams-Wynn , Wynnstay ; a Thomas Johnes , Hafod Uchdryd ; ond collodd y ddau y rhan fwyaf o'r llawysgrifau a brynasent, mewn tanau, y naill mewn siop rhwymwr llyfrau yn Llundain a'r llall yn Hafod Uchdryd ei hun.

Ffynonellau:

  • N. Owen , ‘Memoirs of Edward Lhwyd,’ British Remains; or, A collection of antiquities relating to the Britons : comprehending I. A concise history of the Lords Marchers … ; II. The arms of the ancient nobility and gentry of north Wales; III. A letter of Dr. Lloyd, Bishop of St. Asaph's, concerning Jeffrey of Monmouth's History : IV. An account of the discovery of America by the Welsh … ; V. A celebrated poem of Taliesin, translated into Sapphic verse; to which are also added, memoirs of Edward Llwyd, antiquary (Llundain, 1777) , 129-84;
  • W. Pryce , Archaeologia Cornu-Britannica or, an essay to preserve the ancient Cornish language; containing the rudiments of that dialect, in a Cornish grammar and Cornish-English vocabulary, compiled from a variety of materials which have been inaccessible to all other authors, wherein the British original of some thousand English words in common use is demonstrated … and other parts of England (Sherborne, Exeter, 1790) ;
  • ‘Several Letters written by Edward Lhuyd … to Thomas Tomkin’;
  • R. T. Gunther , Life and letters of Edward Lhwyd second Keeper of the Musaeum Ashmoleanum (Cyf. xiv o ‘Early Science in Oxford’), Rhydychen, 1945 ;
  • O. M. Edwards , ‘Edward Llwyd,’ yn Y Geninen (Gwyl Dewi), 1891 , 19-21;
  • J. Morris-Jones , ‘Edward Llwyd,’ yn Y Traethodydd 48 ( 1893 ), 465-75;
  • R. Ellis , ‘Some Incidents in the Life of Edward Lhuyd,’ yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1908 , 1-51;
  • D. Lleufer Thomas , ‘Edward Lhuyd’, yn Oxford Dictionary of National Biography ;
  • R. H. Morris (gol.), Parochialia being a summary of answers to 'Parochial queries in order to a geographical dictionary, etc., of Wales' yn Archaeologia Cambrensis supplements, Ebrill 1909 , 1910, Gorffennaf 1911;
  • A. H. Dodd , ‘The Early Days of Edward Lhuyd,’ Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , vi, 305.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones, D.Litt., Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54