LLEWELYN, THOMAS DAVID ('Llewelyn Alaw'; 1828 - 1879), cerddor

Enw: Thomas David Llewelyn
Ffugenw: Llewelyn Alaw
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1879
Rhiant: Martha Llewelyn
Rhiant: David Llewelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 25 Mehefin 1828 yn Llwydcoed, Aberdâr, mab David a Martha Llewelyn. Dysgodd ganu'r delyn yn blentyn ac yr oedd yn chwaraewr da yn 8 oed. Yn 11 oed aeth i weithio gyda'i dad i lofa. Yn 1851 gadawodd y lofa, a rhoddodd ei holl amser i gerddoriaeth, barddoniaeth, a llenyddiaeth. Efe oedd telynor teulu Aberpergwm a'r arglwydd Aberdâr. Cafodd hanner y wobr am draethawd ar ' Hanes Aberdâr,' a chyhoeddwyd ef yn y gyfrol Gardd Aberdâr. Enillodd y wobr yn eisteddfod genedlaethol Llangollen, 1858, am y 'Casgliad gorau o Alawon anghyhoeddedig,' a chafodd amryw wobrwyon eisteddfodol ar ganu'r delyn. Bu farw 13 Awst 1879 a chladdwyd ef ym mynwent Hen Dŷ Cwrdd, Aberdâr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.