LLEWELYN, MARY PENDRILL, gynt Mary Catherine Rhys (1811 - 1874), cyfieithydd ac awdur

Enw: Mary Pendrill Llewelyn
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1874
Priod: R. Pendrill Llewelyn
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cyfieithydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ray Looker

Ganwyd hi yn y Bont-faen, Morgannwg, 12 Mawrth 1811. Daeth yn wraig i R. Pendrill Llewelyn, ficer Llangynwyd. Ymddiddorai hi a'i gŵr mewn llenyddiaeth Cymru, ac ymddangosodd rhai o'i phenillion hi yn The Cambrian a'r Merthyr Guardian. Cyfieithodd gasgliad o emynau Cymraeg, rhai William Williams (Pantycelyn) gan mwyaf, a chyhoeddwyd hwn yn 1850; dywedir iddi hefyd gyfieithu rhai o faledi Dafydd Nicholas. Bu farw 19 Tachwedd 1874.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.