LLEWELLYN, THOMAS (1720? - 1783), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr

Enw: Thomas Llewellyn
Dyddiad geni: 1720?
Dyddiad marw: 1783
Priod: Mary Llewelyn
Rhiant: Anne Lewis Jenkin (née James)
Rhiant: Evan Llewelyn
Rhiant: Lewelin Jenkin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awduron: Benjamin George Owens, Brynley Francis Roberts

Ganwyd ym Mhenalltau-isaf, Gelligaer, tua 1720, yn fab i Evan Llewellyn, ac fel y tybir o linach Tomas Llywelyn, Rhigos. Bu am beth amser yn dilyn crefft teiliwr yn ardal Casbach, ond bedyddiwyd ef tua 1738 a rhoes ei fryd ar y weinidogaeth. Aeth yn fyfyriwr i'r Trosnant (Pontypwl) yn 1740, oddi yno i Fryste yn 1741, a thrachefn i Lundain yn 1742, ond er ei ordeinio yn eglwys Prescott Street, Goodman's Fields, tua 1747, ni bu gofal eglwys arno, ac am y rhan fwyaf o'i oes, hyd y 70au cynnar, bu'n athro ysgol a gychwynasid ganddo ef ei hun yn Llundain i hyfforddi myfyrwyr tlodion i'r weinidogaeth Fedyddiedig. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yng Nghasbach, ac yno y bu farw 7 Awst 1783. Fe'i claddwyd yn Bunhill Fields. Derbyniodd raddau M.A. a LL.D. gan Brifysgol Aberdeen.

Fe'i cofir yn bennaf am ei ymgyrch o blaid argraffu rhagor o Feiblau Cymraeg a'u dosbarthu'n fwy cyson yng Nghymru. Cyhoeddodd Historical Account of the British or Welsh Versions and Editions of the Bible, 1768, a droswyd i Gymraeg yn Seren Gomer, 1815, a Historical and Critical Remarks on the British Tongue, 1769 (a ailargraffwyd gyda'i gilydd yn 1793 dan y teitl Tracts, Historical and Critical); bu'r ddau gyhoeddiad, ac yn enwedig y cyntaf, yn symbyliad i'r S.P.C.K. i argraffu 20,000 (8,000 yn fwy na'u bwriad) o Feibl 1769. I'r un amcan ymunodd Llewellyn ar 2 Mawrth 1768 â'r ' Book Society for promoting Religious Knowledge among the Poor,' a pharatoi i'r gymdeithas restr o gynulleidfaoedd pob enwad yn Ne Cymru a Mynwy i'w hanrhegu â chopïau o'r Beibl newydd. Trwyddo ef hefyd yn bennaf, gyda chymorth o'r ' Baptist Fund,' y cychwynnwyd cenhadaeth y Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru yn 1776. Yr oedd yn aelod o'r Cymmrodorion yn 1778. Sonia ei ewyllys (profwyd 21 Awst 1783) am ei briod Mary (a wnaed yn sgutores), ei frodyr Evan a Jenkin, ei chwaer Mary Thomas o Gasbach, ac amryw o neiaint a nithoedd.

Y mae bellach wybodaeth newydd am rieni a theulu Dr Thomas Llewellyn

Yn ôl ewyllys Lewelin Jenkin o blwyf Gelligaer (claddwyd 30 Rhagfyr 1729) ymddengys mai ei blant gan ei ail wraig Anne Lewis James oedd Thomas Llewellyn a Mary. Bu hi farw tra oedd Thomas o dan 10 oed gan fod James Lewis wedi'i benodi'n warcheidwad iddo. Gwraig gyntaf Lewelin oedd Catherine a fu farw ac a gladdwyd 12 Chwefror 1716/1717 a hi, mae'n debyg, oedd mam ei feibion Jenkin ac Evan, hanner brodyr, felly, i Thomas a Mary. Priododd Lewelin eto ac enwir ei wraig Elizabeth Jenkins yn ei ewyllys. Rhieni Anne Lewis James oedd Lewis James ac Elizabeth Rosser o Eglwys Ilan. Eu mab a'u hetifedd oedd James Lewis, efallai gwarcheidwad ei nai Thomas. Etifeddodd Elizabeth Rosser fferm Cefn Hengoed a rhoddodd lés i'r Bedyddwyr godi capel Hengoed. Yr oedd ei hŵyr Lewis James yn weinidog yno yn y 18fed ganrif, hwnnw, mae'n debyg, yn gefnder Dr Thomas Llewellyn.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.